Thebes, Yr Aifft
Mae Thebes neu Thebai yn Safle Treftadaeth y Byd yn yr Aifft. Thebai (Θῆβαι) Thēbai, (Arabeg: طيبة) yw'r enw Groeg am y ddinas hon, un o'r rhai pwysicaf yn yr Hen Aifft, a saif ar ochr ddwyreiniol yr Afon Nîl. Sefydlwyd hi tua 3200 CC. Daeth yn brifddinas yr Hen Aifft yn y 11ed frenhinlin ac wedyn yn y 18fed frenhinlin pan adeiladwyd llynges a phorthladd gerllaw gan y Frenhines Hatshepsut yn Elim. Roedd Thebai yn enwog drwy'r Henfyd a chyfeiria Homer ati yn yr Iliad (Llyfr IX).
![]() | |
Math |
dinas hynafol, safle archaeolegol, emporia ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir |
Luxor Governorate ![]() |
Gwlad |
Yr Aifft ![]() |
Uwch y môr |
78 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
25.7206°N 32.6103°E ![]() |
![]() | |
Saif Luxor ar yr un safle heddiw.
O'r enw Copteg Ta-Opet ("teml") daeth yr enw Thebai i'r Roeg ond niwt-imn ("Dinas Amun") oedd hi yn yr Eiffteg a dyma'r enw Beiblaidd yn Hebraeg, sef נא אמון nōˀ ˀāmôn (Nahum 3:8), neu נא ("No") (Eseciel 30:14). Troswyd hyn yn llythrennol i'r Roeg fel Διόσπολις Diospolis ("Dinas Zeus") neu weithiau Διόσπολις μεγάλη Diospolis megale ("Dinas Fawr Zeus") rhag drysu rhwng y gwahanol Diospolisau eraill. Y fersiwn Lladin a arferid gan y Rhufeiniaid oedd Diospolis Magna.
Erbyn heddiw mae dwy dref ar safle Thebai sef Luxor (Arabeg: الأقصر, Al-Uqṣur, "Y Palasau") ac al-Karnak (الكرنك).
FfynonellauGolygu
- Gauthier, Henri. 1925–1931. Dictionnaire des noms géographiques contenus dans les textes hieroglyphiques. Cyf. 3 o 7. Cairo: Imprimerie de l’Institut français d’archéologie orientale du Caire. (Adargraffiad, Osnabrück: Otto Zeller Verlag, 1975). 75, 76.
- Polz, Daniel C. 2001. "Thebes". Yn The Oxford Encyclopedia of ancient Egypt, gol. Donald Bruce Redford. Cyf. 3 o 3. Rhydychen, Efrog Newydd, a Cairo: Gwasg Prifysgol Rhydychen a'r American University in Cairo Press. 384–388.
- Redford, Donald Bruce. 1992. "Thebes". Yn The Anchor Bible Dictionary, gol. David Noel Freedman. Cyf. 6 o 6. Efrog Newydd: Doubleday. 442–443. ISBN 0-385-42583-X
- Strudwick, Nigel C., & Strudwick, Helen, Thebes in Egypt: A Guide to the Tombs and Temples of Ancient Luxor. Llundain: British Museum Press, 1999, ISBN 0-8014-3693-1 (clawdd caled)/ISBN 0-8014-8616-5 (clawdd papur)
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Theban Mapping Project
- (Saesneg) Ramesseum/Ancient Thebes Digital Media Archive
- (Saesneg) ICOMOS Heritage at Risk 2001/2002