Enw a ddefnyddir mewn nifer o grefyddau am fan lle mae eneidiau'r meirwon yn mwynhau bywyd ar ôl marwolaeth yw Nefoedd neu Nef. Fel rheol mae'n fan lle mae enedidiau'r sawl sydd wedi byw bywyd da yn cael eu gwobrwyo, mewn gwrthgyferbyniad ag Uffern lle4 mae eneidiau drygionus yn cael eu cosbi. Gall "nefoedd" heb briflythyren fod yn air arall am yr wybren. Enw arall a ddefnyddir am y Nefoedd yn aml yw Paradwys, er fod ystyr wreiddiol y gair hwnnw yn wahanol.

Dante a Beatrice yn syllu ar rannau uchaf y Nefoedd; llun gan Gustave Doré ar gyfer y Divina Commedia.

Y crefyddau Abrahamig

golygu

Iddewiaeth

golygu

Cristnogaeth

golygu

Syniad a gysylltir yn arbennig a'r Eglwys Gatholig yw fod rhai eneidiau yn mynd yn syth i'r Nefoedd tra mae eraill yn gorfod mwynd trwy'r broses o buredigaeth yn y Purdan yn gyntaf. Cred rhai enwadau Cristnogol eraill yn y posibilrwydd o ryw fath o broses o buro eneidiau ar ôl marwolaeth.

Disgrifir y Nefoedd yn Islam (Ar.:جنة, al-janna, djanna (yr ardd)) fel gardd. Yn y swra "Y Credinwyr", dywedir fod saith lefel i'r Nefoedd, ac mewn rhannau eraill o'r Coran sonir am afonydd o wîn, llaeth, mêl a dŵr.