Mae Neil Warnock (ganwyd 1 Rhagfyr 1948) yn rheolwr pêl-droed o Loegr, a reolodd tîm Dinas Caerdydd rhwng 2016 a 2019. Mae ei yrfa fel rheolwr pêl-droed wedi para 35 mlynedd hyd yn hyn. Mae e hefyd yn gyn-chwaraewr pêl-droed, ac yn gweithio fel pyndit ar y teledu ac ar y radio. Mae'n meddu ar y record am y nifer fwyaf o ddyrchafiadau (8) ym mhêl-droed yn Lloegr.

Neil Warnock
Manylion Personol
Enw llawn Neil Warnock
Dyddiad geni (1948-12-01) 1 Rhagfyr 1948 (75 oed)
Man geni Sheffield, Baner Lloegr Lloegr
Manylion Clwb
Clwb Presennol Caerdydd (rheolwr)
Clybiau a reolwyd
1980-1981
1981-1986
1986-1989
1989-1993
1993
1993-1995
1995-1997
1997-1998
1998-1999
1999-2007
2007-2010
2010-2012
2012-2013
2014
2015
2016
2016-2019
Gainsborough Trinity
Burton Albion
Scarborough
Notts County
Torquay United
Huddersfield Town
Plymouth Argyle
Oldham Athletic
Bury
Sheffield United
Crystal Palace
Queens Park Rangers
Leeds United
Crystal Palace
Queens Park Rangers (rheolwr dros dro)
Rotherham United
Caerdydd


* Ymddangosiadau

Chwaraeodd Warnock fel asgellwr i Chesterfield, Rotherham United, Hartlepool United, Scunthorpe United, Aldershot, Barnsley, York City a Crewe Alexandra, a sgoriodd 36 gôl mewn 327 ymddangosiad cynghrair yn ei yrfa. Ymddeolodd fel chwaraewr yn 30 oed yn 1979 er mwyn dechrau hyfforddi.

Gyrfa fel rheolwr golygu

Dechreuodd Warnock ei yrfa fel rheolwr gyda Gainsborough Trinity (1980-1981) a Burton Albion (1981-1986), cyn iddo ennill dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed yn 1987 gyda Scarborough yn ystod ei amser yna (1986-1989). Yna, rheolodd Notts County (1989-1993), a'u harwain nhw o'r Drydedd Gynghrair i'r Gynghrair Gyntaf mewn tymhorau olynol. Ar ôl cyfnod byr gyda Torquay United (1993), symudodd i Huddersfield Town (1993-1995) ac enillodd ddyrchafiad i'r Gynghrair Gyntaf newydd. Ymddiswyddodd ac ymunodd â Plymouth Argyle (1995-1997) a'u harwain nhw at yr Ail Gynghrair. Ar ôl iddo gael ei ddiswyddo, treuliodd amser gyda Oldham Athletic (1997-1998) a Bury (1998-1999).

Ym 1999, Ymunodd Warnock â chlwb ei blentyndod, Sheffield United, a'u harwain nhw at rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair a'r Cwpan FA yn 2003, a dyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2006. Ymddiswyddodd yn 2007 ar ôl i'r clwb ostwng i'r Bencampwriaeth. Rheolodd Crystal Palace rhwng 2007–2010, a'u hachub rhag gostwng i Gynghrair Un. Ymunodd â Queens Park Rangers (2010–2012), ac enillant ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2011. Cafodd ei ymddiswyddo, ac yna ymunodd â Leeds United (2012–2013). Ar ôl iddo gael ei ymddiswyddo gan Leeds roedd e heb glwb am bron i bymtheg mis cyn iddo ddychwelyd i Crystal Palace, a oedd yn yr Uwchgynghrair erbyn hyn, ym mis Awst 2014. Ym mis Rhagfyr 2014, cafodd ei ymddiswyddo gan Crystal Palace ar ôl dechreuad gwael i'r tymor. Ar ôl mis fel rheolwr dros dro gyda Queens Park Rangers, dychwelodd Warnock i Rotherham United fel rheolwr ym mis Chwefror 2016.

Clwb pêl-droed Dinas Caerdydd golygu

Ymunodd Warnock â Dinas Caerdydd ym mis Hydref 2016, a'u harwain at ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2018.[1] Er hynny, disgynnodd y clwb yn ôl i'r Bencampwriaeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Warnock eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n gadael ar ddiwedd y tymor. Er hynny, wedi dechrau siomedig i ddechrau tymor 2019, gadawodd y clwb ar 11 Tachwedd 2019 [2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Neil Warnock". Wikipedia. Cyrchwyd 22/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  2. Neil Warnock yn gadael ei swydd fel rheolwr Caerdydd , BBC Cymru Fyw, 11 Tachwedd 2019.