Bury

Tref ym Manceinion Fwyaf, Lloegr

Tref ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Bury.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Bury. Mae'n gorwedd ar lan Afon Irwell, 5.5 milltir (8.9 km) i'r dwyrain o Bolton, 5.9 milltir (9.5 km) i'r gorllewin-de-orllewin o Rochdale, a 7.9 milltir (12.7 km) i'r gogledd-gogledd-orllewin o ddinas Manceinion.

Bury
Bury Town Hall (2).jpg
Mathtref, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeisdref Fetropolitan Bury
Poblogaeth78,729 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Schorndorf, Angoulême, Tulle, Woodbury, Datong Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd30.1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRamsbottom, Radcliffe Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.59315°N 2.298553°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD805105 Edit this on Wikidata
Cod postBL9 Edit this on Wikidata
Am lleoedd eraill o'r un enw gweler Bury (gwahaniaethu).
Cerflun Robert Peel
Bury landmarks.jpg

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Bury boblogaeth o 77,211.[2]

Mae Caerdydd 242 km i ffwrdd o Bury ac mae Llundain yn 274.3 km. Y ddinas agosaf ydy Salford sy'n 12 km i ffwrdd.

Gorsaf reilffordd Heol Bolton

HanesGolygu

Mae gan Amgueddfa Bury tystolaeth (wrn a phres) bod y Rhufainwyr yno, yn dyddio o 253-282.[3] Adeildodd Agricola ffordd o Fanceinion i Ribchester (Bremetennacum), trwy Radcliffe.

Cyn symudwyd Afon Irwell i’w chwrs presennol, llifodd hi heibio’r craig sy wedi rhoi’r enw ‘The Rock’ i’r heol ymghanol y dref, lle oedd plasty, eglwys y plwyf a sawl tŷ. Adeiladwyd Castell Bury]] ym 1469 ar dir uchel uwchben Afon Irwell[4].

Daeth ffatrioedd a melinau i‘r dref, a cododd poblogaeth y dref o 7072 i 15086, rhwng 1801 a 1830. Crewyd Bury Savings Bank ym 1822; daeth y banc y TSB.[5]

Y Chwyldro DywidiannolGolygu

Roedd bythynnod gwehyddion yn ystod y 17eg a 18fed ganrif yn Elton a daeth melinau yn defnyddio ynni dŵr.[6][7] Sefydlwyd Melin Brooksbottom ym 1773, i argraffu Calico yn Summerseat, gan deulu Peel. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd y dywidiant Cotwm yn bwysig i’r dref, a’r Afon Irwell ac Afon Roch yn cyflenwi pŵer a dŵr i’r melinau. Agorwyd Camlas Manceinion, Bolton a Bury ym 1808 yn rhoi cysylltiad i’r camlesi eraill. Adeilaladwyd Cronfa Dŵr Elton i roi dŵr o’r Irwell i’r gamlas. Roedd 7 melin cotwm yn Bury erbyn 1818. Aeth poblogaeth y dref o 9.152 ym 1801 i 20,710 ym 1841 a 58.029 erbyn 1901. Adeiladwyd rheilffyrdd o orsaf reilffordd Bury (Heol Bolton) i Rawtenstall, Accrington a Manceinion, ac o orsaf Reilffordd Bury (Heol Knowsley) i Bolton, Heywood a Rochdale. Tyfodd dywidiannau papur a pheiriannu ysgafn. Ehangwyd y dref i gynnwys Elton. Walmersley a Heap ac adeiladwyd tai terasau.

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 3 Ionawr 2020
  2. City Population; adalwyd 24 Awst 2020
  3. Dobb, Arthur J (1970), 1846 Before and After: A Historical Guide to the Ancient Parish of Bury
  4. "Bury Castle on Pastscape"
  5. Gwefan Cyngor Bury
  6. "Gwefan Spinning the Web". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-12. Cyrchwyd 2021-06-09.
  7. A guide to the Industrial Archaeology of Greater Manchester gan Robina McNeil a Michael Nevell, cyhoeddwyd 2000 gan Association for Industrial Archaeology;isbn 978-0-9528930-3-5
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fanceinion Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato