Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho
Tref a Neilldir yn nhalaith Idaho, Unol Daleithiau America yw Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho. Mae'n ffinio gyda Pocatello, Idaho a Chubbuck, Idaho. Fe'i cofrestrwyd fel Neilldir Indiaidd ar gyfer y llwythi brodorol Shoshone-Bannock. Mae hwn yn un o bum llwyth a gydnabyddir yn ffederal gan y wladwriaeth. Mae'r neilldir wedi'i leoli yn ne-ddwyrain Idaho ar Wastadedd Afon Snake tua 20 milltir (32 km) i'r gogledd a'r gorllewin o Pocatello. Mae'n cynnwys 814.874 metr sgwâr (2,110.51 km2) o arwynebedd tir mewn pedair sir: Bingham Power, Bannock, a Caribou. I'r dwyrain mae Bryniau Portneuf 60 milltir o hyd (97 km); ac mae mynyddoedd Putnam a De Putnam wedi'u lleoli ar Neilldir Indiaidd Fort Hall.
Math | Neilldir Indiaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | UDA |
Talaith | Idaho |
Gerllaw | Afon Portneuf, Afon Snake, Afon Blackfoot, Ross Fork, Bannock Creek |
Yn ffinio gyda | Pocatello, Chubbuck |
Cyfesurynnau | 42.9644°N 112.3664°W |
Wedi'i sefydlu drwy gytundeb a arwyddwyd yn 1868, mae'r neilldir wedi'i henwi ar ol Fort Hall, a oedd yn gaer fechan a oedd yn masnachu yn Nyffryn Portneuf a sefydlwyd gan Americanwyr Ewropeaidd. Roedd yn arhosfan bwysig ar hyd llwybrau Oregon a Chalifornia yng nghanol y 19g.
Pobl nodedig
golyguCeir nifer o bobl nodedig a anwyd yn Fort Hall Indian Reservation, gan gynnwys:
Rhestr Wicidata:
enw | delwedd | galwedigaeth | man geni | Bl geni | Bl marw |
---|---|---|---|---|---|
Teola Truchot | Neilldir Indiaidd Fort Hall[1] | 1911 | 2002 | ||
Patricia Locke | gwleidydd | Neilldir Indiaidd Fort Hall | 1928 | 2001 | |
LaNada War Jack | ymgyrchydd ranshwr gwleidydd academydd |
Neilldir Indiaidd Fort Hall | 1947 |