Neo-geidwadaeth
Ffurf ar geidwadaeth yw neo-geidwadaeth sydd yn cyfuno nodweddion traddodiadol yr ideoleg honno gydag unigolyddiaeth wleidyddol a chefnogaeth dros y farchnad rydd. Datblygodd yn Unol Daleithiau America yn y 1970au ymysg academyddion a sylwebyddion gwrth-gomiwnyddol oedd yn anghytuno â gwrthddiwylliant y 1960au.[1] Ystyrir polisïau economaidd Ronald Reagan (Reaganomeg) a Margaret Thatcher (Thatcheriaeth) yn neo-geidwadol.
Gwleler hefyd
golyguNeo-ryddfrydiaeth - Ideoleg sydd yn dadlau bod yr economi'n gweithio'n fwy effeithlon os bydd marchnad cwbl rydd, heb ymyrraeth neu rwystrau gan lywodraeth neu fonopoli.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Neoconservatism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Mai 2018.