Nest ferch Cadell
785-831
Roedd Nest ferch Cadell (yn fyw ar dechrau'r 9g) yn dywysoges o linach brenhinol Powys.
Nest ferch Cadell | |
---|---|
Ganwyd | 8 g |
Bu farw | 9 g |
Galwedigaeth | brenhines gydweddog |
Tad | Cadell Powys |
Priod | Merfyn Frych |
Plant | Rhodri Mawr, Gwriad ap Merfyn |
- Am ferched eraill o'r enw Nest, gweler Nest.
Gwnaeth Merfyn Frych, brenin teyrnas Gwynedd, gynghrair a theulu brenhinol Powys trwy briodi'r Dywysoges Nest. Roedd hi'n ferch i Cadell ap Brochfael a chwaer i Cyngen, brenin Powys. Roedd hi'n fam i'r brenin Rhodri Mawr.
Trwy ei phriodas i Ferfyn Frych unodd Nest linach Gwynedd a llinach Powys, a chafodd hyn effaith bellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol.