Agor y brif ddewislen

Roedd Merfyn Frych, neu Merfyn Frych ap Gwriad (bu farw 844), yn frenin Gwynedd ar ddechrau'r 9g.

BywgraffiadGolygu

Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r 9g, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma. Efallai fod ei hawl ar orsedd Gwynedd trwy ei fam Esyllt, merch Cynan ap Rhodri Molwynog.

Gwnaeth Merfyn gynghrair â theulu brenhinol Powys trwy briodi'r Dywysoges Nest, merch Cadell ap Brochfael a chwaer Cyngen, brenin Powys. Er gwaethaf ymosodiadau gan y Daniaid, llwyddodd Merfyn i ddal ei afael ar ei deyrnas ac ar ei farwolaeth yn 844 daeth ei fab Rhodri Mawr yn frenin yn ei le.

CyfeiriadauGolygu

O'i flaen :
Hywel ap Rhodri Molwynog
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Rhodri Mawr ap Merfyn


     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.