Nesta Wyn Jones
bardd Cymreig, llenor
Bardd a llenor Cymraeg yw Nesta Wyn Jones (ganed 1946). Bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Bangor.
Bu'n gweithio yno ar y gyfres Gorwelion (llyfrau Project Cymraeg fel Mamiaith ar gyfer ysgolion uwchradd) ac yna gyda'r Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth. Enillodd ysgoloriaeth deithio gan Gyngor y Celfyddydau ym 1976 ac eto ym 1991. Mae'n aelod o'r Academi Gymreig er 1970.
Mae'n byw yn Abergeirw, yn ardal Dolgellau ers blynyddoedd. Mae'n fam ac yn nain.
Enillodd wobr Cyngor y Celfyddydau yn 1987 am Rhwng Chwerthin a Chrio.
Cyhoeddiadau
golygu- Cannwyll yn Olau (Gomer, 1969)
- Ffenest Ddu (Gomer, 1973)
- Dyddiadur Israel (Gomer, 1982)
- Rhwng Chwerthin a Chrio (Gomer, 1986)
- Cyfri Pryfed (Gomer, 1990)
- Dawns y Sêr (Gomer, 1999)