Offeiriad o Wcráin yn Eglwys Gatholig Roeg Wcráin ac awdur yn yr iaith Wcreineg oedd Nestor Dmytriw (186327 Mai 1925). Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn gennad yn Unol Daleithiau America a Chanada.

Nestor Dmytriw
Ganwyd12 Tachwedd 1862 Edit this on Wikidata
Utishkiv Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 1925 Edit this on Wikidata
Elizabeth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria-Hwngari Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, llenor, cyfieithydd, gwleidydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar yn Wcráin (1863–95)

golygu

Ganwyd i deulu o werinwyr yn Scherebky (Жеребки) yn Nheyrnas Galisia a Lodomeria, a leolir heddiw yn Oblast Lviv yng ngorllewin Wcráin. Astudiodd diwinyddiaeth yn Athrofa Gatholig Roeg Lviv. Pwysleisiodd Dmytriw a'i gyfeillion wasanaethu'r gymuned, a'r angen i offeiriaid ifainc mynd gydag ymfudwyr Wcreinaidd i Ogledd America. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn 1895.[1]

Cenhadaeth i Ogledd America (1895–1925)

golygu

Cyrhaeddodd Dmytriw yr Unol Daleithiau yn 1895 i arwain y genhadaeth i weithwyr diwydiannol Wcreinaidd ym Mhensylfania. Gweithiodd hefyd fel newyddiadurwr, a chyhoeddwyd nifer o'i erthyglau yn Svoboda, y papur newydd Wcreineg cyntaf yng Ngogledd America.

Ei gyfnod yng Nghanada (1897–9)

golygu

Anfonwyd Dmytriw i Ganada yn Ebrill 1897 gan y Gymdeithas Genedlaethol Rwthenaidd, sefydliad cydfuddiannol yn yr Unol Daleithiau a glywsai'r angen am offeiriaid gan setlwyr Wcreinaidd yn Nhaleithiau'r Paith (Manitoba, Saskatchewan, ac Alberta). Gan yr oedd Dmytriw yn medru Wcreineg, Almaeneg, a Saesneg, cafodd ei benodi'n gyfieithydd i'r asiantaeth fewnfudo i Ganada. Yn ei waith fel yr offeiriad Wcreinaidd cyntaf yng Nghanada, trefnodd plwyfi Terebowla a Stuartburn ym Manitoba ac Edna yn Alberta. Rhyddfrydwr oedd Dmytriw a oedd o blaid eglwys Gatholig Roeg annibynnol yng Nghanada, er i'r Eglwys Gatholig Rufeinig wrthwynebu hynny ar y pryd.[1]

Ysgrifennwyd y stori fer gyntaf yn Wcreineg yng Nghanada ganddo pan oedd yn ymweld â Calgary yn 1897.[2] Anfonodd adroddiadau o'i brofiad i Svoboda a chawsant eu cyhoeddi ar ffurf llyfryn o'r enw Kanadiis’ka Rus’: podorozhni spomyny ("Rwthenia Canada: atgofion taith"; 1897).[1]

Dychweliad i Bensylfania a New Jersey (1899–1925)

golygu

Dychwelodd Dmytriw i Bensylfania yn 1899 oherwydd ei ludded corfforol a'i drafferthion ariannol o ganlyniad i'w waith di-flin yng Nghanada. Parhaodd i gyfrannu at Svoboda, ac ysgrifennodd am ei brofiadau yng nghymunedau Wcreinaidd Pensylfania. Gwasanaethodd sawl plwyf yn y dalaith honno ac yn New Jersey. Ni wyddys llawer am ddiwedd ei oes. Bu farw yn Elizabeth, New Jersey.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Dmytriw, Nestor", Dictionary of Canadian Biography. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.
  2. (Saesneg) "Ukrainian Writing", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.