Neuadd John Morris-Jones
Neuadd breswyl Gymraeg Prifysgol Bangor yw Neuadd John Morris-Jones (JMJ). Enwyd yr adeilad ar ôl y bardd enwog o Ynys Môn, John Morris-Jones (1864–1929). Mae'r neuadd wedi'i rannu i ddau adeilad, sef Bryn Dinas a Tegfan, ac mae Ystafell Gyffredin yn rhannu'r neuaddau lle cynhelir llawer o ddigwyddiadau UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor). Mae'r digwyddiadau'n amrywio o Gyfarfodydd Cyffredinol, Ymarferion Côr Aelwyd JMJ a sawl digwyddiad cymdeithasol a gynhelir gan Y Cymric, corff cymdeithasol UMCB.
Math | neuadd breswyl |
---|---|
Enwyd ar ôl | John Morris-Jones |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Bangor |
Sir | Bangor |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.226535°N 4.140453°W |
Mae lleoliad y Neuadd wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd, ond erbyn hyn mae safle'r neuadd ym Mhentref Ffriddoedd, Bangor Uchaf.
Llywydd JMJ
golyguUn o'r safleoedd ar Bwyllgor gwaith UMCB yw Llywydd JMJ, sy'n gyfrifol am gynrychioli'r preswylwyr ac am drefnu gweithgareddau cymdeithasol sy'n digwydd yn y neuadd.
Dyma restr o rhai o'r unigolion sydd wedi cymryd y safle dros y blynyddoedd diwethaf:
- Rhodri Williams (2014–15)
- Huw Harvey (2015–16)
- Gethin Morgan (2016–17)
- Lleucu Myrddin (2017–18)
- Iwan Evans (2018–19)
- Mabon Dafydd (2019–20)
- Cadi Evans (2020–21)
- Catrin Jones (2021-22)
- Beca Evans (2022-23)
- Gwen Down (2023-24)