John Morris-Jones

ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol

Bardd, ysgolhaig, gramadegydd a beirniad llenyddol o Gymru oedd Syr John Morris-Jones (17 Hydref 186416 Ebrill 1929). Gosododd seiliau cadarn i ysgolheictod Cymraeg a safonau'r iaith Gymraeg fel cyfrwng llenyddol yn yr 20g. Enwir Neuadd John Morris-Jones, neuadd Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, ar ei ôl.

John Morris-Jones
Ganwyd17 Hydref 1864 Edit this on Wikidata
Llandrygarn Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1929 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu
 
Portread o John Morris-Jones gan Christopher Williams (1873–1934)

Cafodd ei eni ym mhentref bychan Trefor, plwyf Llandrygarn, Sir Fôn. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i fyw yn Llanfairpwllgwyngyll. Wedi cael ei addysg gynnar yn Ysgol Friars, Bangor, a Choleg Crist, Aberhonddu, enillodd ysgoloriaeth i Goleg Yr Iesu, Rhydychen i astudio mathemateg. Yno cafodd flas ar astudio'r iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 1880. Aeth ymlaen wedyn i astudio'r Gymraeg yn Rhydychen dan yr Athro Syr John Rhŷs.

Penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1888 ac yn 1895 yn athro yn yr Adran Gymraeg newydd; ymhlith ei ddisgyblion oedd Syr Ifor Williams. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1918. Bu farw yn 1929 ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.

Ysgolheictod

golygu

Cyn ei amser ef, roedd sillafiad y Gymraeg yn amrywio a'r gramadeg heb ei safoni. Campwaith John Morris-Jones oedd creu safon i orgraff y Gymraeg, yn seiliedig ar ymchwil ieithyddol, ac sydd yn parhau yn yr iaith heddiw.

Gyda'i hen gyfaill John Rhŷs, yntau'n ysgolhaig Celtaidd o fri yn ei ddydd, golygodd John Morris-Jones argraffiad o Llyfr yr Ancr (1894). Ond yn bwysicach na hynny, golygodd argraffiad newydd o glasur Ellis Wynne Gweledigaethau'r Bardd Cwsg sy'n astudiaeth bwysig ond hefyd yn un o'r gweithiau ganddo a ysgogodd lenorion cyfoes i droi yn ôl at arddull coeth rhyddiaith Gymraeg glasurol i godi eu safonau a dadwneud effaith niweidiol dylanwad pobl fel William Owen Pughe ar y Gymraeg fel iaith lenyddol.

Dim ond un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd ond roedd y gyfrol honno, Caniadau (1907) yn ddylanwadol yn ei dydd. Y cerddi enwocaf ynddi efallai y 'Cân i Famon', 'Cymru Fu: Cymru Fydd' a'r cyfieithiadau o rai o gerddi Heine ac Omar Khayyam. Er nad yw'r cerddi eu hunain o'r safon uchaf efallai, yn rhannol oherwydd y rhamantiaeth ordeimladol a geir ynddynt, roeddent yn boblogaidd yn eu dydd ac yn hwb arall i safonau llenyddol y cyfnod oherwydd cynildeb a mireinder eu mynegiant.

Llyfryddiaeth

golygu

Gwaith John Morris-Jones

golygu

Ymdriniaethau

golygu
  • Thomas Parry, John Morris-Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958; 2/1972)
  • Bedwyr Lewis Jones, "Syr John Morris-Jones", yn Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Caernarfon: Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)
  • John Morris-Jones 1864-1929: Llyfryddiaeth Anodiadol, gol. Huw Waters (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1986)
  • Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011)

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: