Neue Walisische Kunst
Mae Neue Walisische Kunst (NWK) (Celf Newydd Cymru) yn grŵp celf a sefydlwyd yn 2020.
Neue Walisische Kunst NWK (Celf Newydd Cymru) | |
Arwyddair | Deutsch-Walisische Freundschaft (Cyfeillgarwch Cymru a’r Almaen)' |
---|---|
Anthem | Afon Gâd (cân gan y grŵp Cymraeg Pysgod Melyn ar Draws) |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Almaeneg, Cymraeg, Saesneg |
Sefydlwyd | 2020 |
Sefydlydd | Sarah Pogoda |
Math | Grŵp celfyddydol |
Lleoliad | Cymru a’r Almaen |
Gwefan | https://deutsch-walisische-freundschaft.jimdosite.com/neue-walisische-kunst/ |
Mae’r grŵp yn cynnal digwyddiadau celfyddydol profoclyd, gwneud ffilmiau byrion, cyhoeddi maniffestos ac yn rhannu cerdiau aelodaeth.
Mae’r grŵp wedi’i hysbrydoli gan y mudiad celf arbrofol 1960au-70au Fluxus ac artistiad avant-garde fel Joseph Beuys a'r cyfarwyddwyr ffilm brofoclyd Christoph Schlingensief. Y ddau yn Almaenwyr ac mae’r grŵp yn defnyddio’r iaith Almaeneg ar eu henw ac yn eu gweithgareddau, ynghyd â Chymraeg a Saesneg.[1][2] [3]
Mae’r enw yn tarddu o Neue Slowenische Kunst – NSK (Almaeneg: Celfyddyd Newydd Slofenaidd), mudiad celf yn gysylltiedig gyda Laibach y band cerddorol avant-garde o Slofenia.
Gweithgareddau
golyguEsiampl o un o weithgareddau'r grŵp oedd dychanu'r modd maen nhw’n meddwl bod artistiaid yn gorfod iselhau eu hun i sicrhau grantiau. Darllenodd y bardd Rhys Trimble barddoniaeth Gymraeg tra’n sefyll at ei ganol mewn dŵr oer y môr, taflwyd rhai bunnoedd o arian papur go iawn i’r dŵr, gan ei orfodi i’w sgramblo trwy’r dŵr i’w casglu cyn i’r arian cael ei sgubo i ffwrdd gan y llanw.
Maniffestos
golygu- Ja Manifesto Ja – Wir sagen Ja auch Walisisch (Maniffesto Ie, rydan ni’n dweud Ie yn Gymraeg Hefyd), 2020
- Fluxus – Gramadeg a Thiepograffiaeth, 2020
Ffilmiau
golygu- Afon-Gad Triptych https://vimeo.com/422540754
- Y cwch Fluxus yn sownd https://vimeo.com/422370546
- Enwi’r fflud Fluxus https://vimeo.com/422264387
- Uwchraddio y fflud Fluxus https://vimeo.com/422264387
- Llithro: Fluxus yn y dŵr https://vimeo.com/422263556
- Bedydd Fluxus https://vimeo.com/422263415
- Fluxus bydd wleidyddiaeth https://vimeo.com/422263415
- Chwilio am leoedd trawsnewid? Tomen Cachu https://vimeo.com/434029534
- Methiant fel y gyfrinach olaf https://vimeo.com/431689595
- Methiant fel cyflwr proses anghyson https://vimeo.com/430744263
- Dagnofa https://vimeo.com/429675840
- Ie Maniffesto Ie https://vimeo.com/419654069
- Ynys Faelog: Lle sanctaidd Fluxus https://vimeo.com/432875712
- Unon ganol Fluxus – yn goroesi https://vimeo.com/422237740
- Methiant fel ein hunig gyfle i oroesi https://vimeo.com/431589865
- Afongarde – Yr Almaenig https://vimeo.com/422258788
- Estronwyr - ffilm addysgiadol https://vimeo.com/419607866
- Safbwynt - ffilm addysgiadol https://vimeo.com/419558398
- Rhys Trimble Ana Blodyn (cyfieithad o gerdd An Anna Blume gan Kurt Schwitters) https://vimeo.com/404068033
Ffynonellau
golygu