Prifysgol Efrog Newydd

(Ailgyfeiriad o New York University)

Prifysgol breifat yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Efrog Newydd (Saesneg: New York University) sydd yn cynnwys 13 o golegau ac isadrannau a leolir mewn pum canolfan ar draws bwrdeistref Manhattan. Mae ganddi ryw 50,000 o fyfyrwyr.

Prifysgol Efrog Newydd
ArwyddairPerstare et praestare Edit this on Wikidata
Mathprifysgol breifat, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1831 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManhattan Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau40.73°N 73.995°W Edit this on Wikidata
Cod post10012-1091 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganAlbert Gallatin Edit this on Wikidata

Sefydlwyd ym 1831 dan yr enw Prifysgol Dinas Efrog Newydd (University of the City of New York). Sefydlwyd ysgol y gyfraith ym 1835, yr ysgol feddygol ym 1841, a'r ysgol ôl-raddedig ar gyfer addysgeg ym 1890. Newidiodd ei enw i Brifysgol Efrog Newydd ym 1894.[1]

Mae campws Prifysgol Efrog Newydd yn cynnwys rhyw 170 o adeiladau ar draws Manhattan, a'i graidd o amgylch Parc Sgwâr Washington yn ardal Greenwich Village. Adrannau'r brifysgol yw: Coleg y Celfyddydau a Gwyddoniaeth; Astudiaethau Breiniol; Ysgol Ôl-raddedig y Celfyddydau a Gwyddoniaeth; Ysgol Gallatin ar gyfer Astudiaethau Unigoledig; Ysgol Ddiwylliant, Addysg a Datblygiad Dynol Steinhardt; Ysgol Fusnes Stern; Ysgol Beirianneg Tandon; Ysgol Gelfyddydau Tisch; yr Ysgol Iechyd Cyhoeddus Byd-eang; y Coleg Deintyddiaeth; Athrofa Wyddorau Mathemategol Courant; Ysgol Feddygol Grossman; Athrofa'r Celfyddydau Cain; yr Athrofa dros Astudio'r Henfyd; Ysgol Wasanaeth Cyhoeddus Wagner; Ysgol Nyrsio Rory Meyers; yr Ysgol Astudiaethau Proffesiynol; Ysgol y Gyfraith; ac Ysgol Waith Cymdeithasol Silver.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) New York University. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2021.