Celfyddydau breiniol

Enw ar y cwricwlwm traddodiadol mewn prifysgolion hanesyddol Ewrop yw'r celfyddydau breiniol. Yn ystod yr Oesoedd Canol, bu saith o'r celfyddydau breiniol yn y brifysgol Ewropeaidd: gramadeg, rhethreg, a rhesymeg neu ddilechdid (y trifiwm) a geometreg, rhifyddeg, cerddoriaeth, a seryddiaeth (y cwadrifiwm). Mewn cyd-destun modern, defnyddir y term celfyddydau breiniol i ddisgrifio cynllun academaidd sydd yn cynnwys agweddau o'r dyniaethau (llenyddiaeth, ieithoedd, athroniaeth, hanes, a'r celfyddydau cain), y gwyddorau naturiol (bioleg, cemeg, a ffiseg) a mathemateg, a gwyddorau cymdeithas.[1]

Darluniad o Philosophia et septem artes liberales ("Athroniaeth a'r saith celfyddyd freiniol") yn y llawysgrif Hortus deliciarum o'r 12g.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Liberal arts. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Mehefin 2021.