Ardal Lewes
ardal an-fetropolitan yn Nwyrain Sussex
Ardal an-fetropolitan yn Nwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Ardal Lewes (Saesneg: Lewes District).
Math | ardal an-fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | East Sussex |
Prifddinas | Lewes ![]() |
Poblogaeth | 102,744 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Sussex (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 292.0643 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 50.8739°N 0.0089°E ![]() |
Cod SYG | E07000063 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Lewes District Council ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 292 km², gyda 102,744 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Brighton a Hove a Gorllewin Sussex i'r gorllewin, Ardal Wealden i'r dwyrain, a'r Môr Udd i'r de.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir y fwrdeistref yn 29 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Lewes. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Newhaven, Peacehaven, Seaford a Telscombe.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ City Population; adalwyd 8 Mehefin 2020