Tref yng Nghernyw, De Orllewin Lloegr yw Newlyn[1] (Cernyweg: Lulynn).[2] Mae'r dref wedi tyfu i ffurfio ardal ddinesig fechan gyda Penzance ac mae'n rhan o blwyf sifil Penzance.

Newlyn
Mathtref, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCernyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Cernyw Cernyw
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.10065°N 5.55239°W Edit this on Wikidata
Cod OSSW460283 Edit this on Wikidata
Cod postTR18 Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Newlyn, Victoria.

Prif ddiwydiant Newlyn yw pysgota ac mae'r dref yn dibynnu ar ei harbwr. Mae Caerdydd 226.9 km i ffwrdd o Newlyn ac mae Llundain yn 414.2 km. Y ddinas agosaf ydy Truro sy'n 39.3 km i ffwrdd.

Harbwr Newlyn/Lulynn.

Arosodd y llong Mayflower yn Newlyn yn 1620 ar ddechrau ei mordaith i'r Amerig. Yn 1595 llosgwyd y dref gan y Sbaenwyr.

Mae'r dref yn adnabyddus am yr ysgol o artistiaid a sefydlwyd yno yn y 1880au, sy'n cynnwys y paentwyr Thomas Cooper Gotch, Albert Chevallier Tayler a Henry Scott Tuke. Ceir casgliad o'u gwaith yn Oriel ac Amgueddfa Penlee House yn Penzance.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 3 Mawrth 2021
  2. Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 3 Mawrth 2021

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato