Tref a phlwyf sifil yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Bodmin[1] (Cernyweg: Bosvena).[2]

Bodmin
Bodmin General railway station 1.jpg
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,736 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGrass Valley, Bad Bederkesa, Ar Releg-Kerhuon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCernyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Cernyw Cernyw
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.466°N 4.718°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011404, E04002268 Edit this on Wikidata
Cod OSSX071665 Edit this on Wikidata
Cod postPL31 Edit this on Wikidata

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 14,736.[3]

Yn hanesyddol, Bodmin oedd tref sirol Cernyw, nes i Lysoedd y Goron symud i Truro, canolfan weinyddol y sir heddiw. Ar gyrion y dref ceir Gwaun Bodmin. Mae Caerdydd 156.2 km i ffwrdd o Bodmin ac mae Llundain yn 344.4 km. Y ddinas agosaf ydy Truro sy'n 33.2 km i ffwrdd.

Credir fod Pedrog, sant cenedlaethol Cernyw, wedi sefydlu clas yma yn y 6g. Mae'r gair bod yn gytras â'r gair Cymraeg bod ac yn golygu 'preswylfod, trigfan'; mae'r ail elfen yn yr enw, menegh, yn cyfateb i mynach(od) yn Gymraeg: felly 'Trigfan y mynachod' yw ystyr yr enw.

Cychwynnwyd tri wrthryfel Cernywaidd ym Modmin. Yn 1497, arweiniodd Michael An Gof a Thomas Flamank fyddin o Gernywiaid i Blackheath yn Llundain lle cawsant eu trechu gan fyddin y brenin. Yn Awst yn yr un flwyddn, 1497, ceisiodd Perkin Warbeck ddiorseddu Harri VII o Loegr. Yn 1549, cychwynnwyd "Gwrthryfel y Llyfr Gweddi" yno gan Gernywiaid Catholig a wrthwynebai fwriad y brenin Protestant Edward VI o Loegr i orfodi llyfr gweddi newydd. Cyraeddasant Caerwysg yn Nyfnaint. Roedd galwad am gael cyfieithiad Cernyweg o'r llyfr gweddi hefyd. Lladdwyd tua 4,000 yn y gwrthryfel hwnnw.

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 12 Mawrth 2021
  2. Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 13 Awst 2017
  3. City Population; adalwyd 7 Mai 2019

Dolenni allanolGolygu