Nia Parry
Cyflwynwraig a chynhyrchydd teledu yw Nia Parry (ganwyd Awst 1975).
Nia Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1973 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro iaith |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i ganwyd ar Ynys Môn a fe'i magwyd yn Llandrillo-yn-Rhos.[1] Mynychodd Ysgol y Creuddyn, ac astudiodd Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg ar gyfer Lefel A. Aeth ymlaen i wneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Wedi graddio, aeth i deithio yn Nepal, India, De America, Yr Aifft, Israel a Thwrci. Bu'n gweithio fel tiwtor Saesneg yn Istanbul am naw mis cyn dychwelyd i Gymru i wneud PhD mewn Methodoleg Dysgu Ail Iaith, gan edrych yn benodol ar ddysgu Cymraeg ail-iaith i oedolion.[2]
Gyrfa
golyguMae Nia yn un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C ond cyn cychwyn o flaen y camerau dechreuodd ei gyrfa fel tiwtor Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2000, cafodd gynnig gwaith fel cyflwynydd ar gyfres S4C Welsh in a Week. Yn dilyn chwe cyfres aeth ymlaen i gyflwyno fwy o raglenni ar gyfer dysgwyr yn cynnwys Cariad@iaith, lle roedd yn dysgu Cymraeg i amryw o enwogion.
Bu'n gyflwynydd ar y rhaglen Cwpwrdd Dillad a chyflwynodd o'r Sioe Frenhinol, y cwis 0 ond 1, Dathlu a Noson Lawen a llu o gyfresi eraill. Mae ar hyn o bryd yn cyflwyno'r gyfres Adre ar S4C.
Mae wedi gweithio fel cynhyrchydd ar nifer o gyfresi yn cynnwys Cwpwrdd Dillad, 4 Wal, Tŷ Cymreig ac Ar Werth. Mae hefyd yn Gynhyrchydd rhaglenni dogfen profiadol ac ymysg rhai o'r rhaglenni ddaeth i'r sgrin yn ddiweddar mae Martin Thomas a Bwrw Bol a'r Bleiddiaid.[2]
Yng Ngorffennaf 2017 daeth yn Olygydd llyfrau plant Cymraeg gyda Gwasg Gomer.[3]
Bywyd personol
golyguMae'n briod â'r Cynhyrchydd teledu Aled Davies ac mae ganddynt ddau o blant. Symudodd o Gaerdydd i Rhostryfan yn 2009.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Gwenwch! (Gwasg Gwynedd, 2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Mark Thomas. Penny's People: Nia Parry - a wholesome star on a Welsh teaching mission (en) , 10 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2017.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Nia Parry. Adalwyd ar 30 Ebrill 2017.
- ↑ Gwasg Gomer yn “hollol dawel” eu meddwl. Golwg360 (21 Gorffennaf 2017).