Nid Madagascar
Grŵp pop electronic a dawns Cymraeg oedd Nid Madagascar a gychwynwyd gan David Wrench pan oedd yn yr ysgol yng Nghaergybi. Wrench oedd cyfansoddwr a prif leisydd y band. Yr unig record i'r grŵp ryddhau oedd Lledrith Lliw sy'n cael ei ddisgrifio fel y record acid house cyntaf yn y Gymraeg.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwnaed fideos o rai o ganeuon y grŵp ar gyfer rhaglenni cerddoriaeth Fideo 9 a Y Bocs.
Disgyddiaeth
golygu- Lledrith Lliw - Feinyl 12" (OFN 011, 1990)
- A "Rhywbeth Cryfach"
- B1 "Lledrith Lliw"
- B2 "Psychotic"
- Sesiwn Ian Gill (4 Chwefror 1990)
- "Trac 8"
- "Psychotic"
- "Manique"
- Fideo 9 (1992)
- "Byr"
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) David Wrench - Mixing Caribou, FKA Twigs & Jungle. Sound on Sound (Ionawr 2015). Adalwyd ar 1 Mawrth 2016.