Canwr, cerddor, cynhyrchydd a pheiriannydd sain yw David Wrench sy'n hanu o Ynys Môn. Mae ei gerddoriaeth wedi amrywio o synthpop i werin ysbrydolwyd gan Doom.

David Wrench
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, canwr Edit this on Wikidata

1990au

golygu

Daeth i sylw'r cyhoedd gyntaf yn 1989, pan oedd dal yn yr ysgol, gyda'i grŵp cyntaf Nid Madagascar, a gyhoeddodd y "record acid house Cymraeg cyntaf "Lledrith Lliw" fel sengl 12" yn 1990. Cafodd gefnogaeth gan Gorwel Owen a oedd yn athro Ffiseg a ddaeth ei hun yn gynhyrchydd recordiau.

Ail-ymddangosodd rhai blynyddoedd yn ddiweddarach fel artist unigol gan arwyddo gyda Recordiau Ankst, Caerdydd ac yn ddiweddarach gyda Storm Music o Fanceinion. Mae Wrench wedi cyhoeddi tri albwm, Blow Winds Blow, The Atomic World of Tomorrow, a Spades & Hoes & Plows, ynghyd â nifer o senglau a EPs. Roedd yn aelod o "swpergrwp cosmig" 33 darn The Serpents, a ryddhaodd sengl ac albwm.[1]

Roedd ei albwm unigol llawn cyntaf, Blow Winds Blow yn dangos doniau Wrench fel aml-offerynnwr.

Disgrifir ei albwm The Atomic World of Tomorrow fel synthpop camp yn debyg i artistiaid fel Pet Shop Boys a Scissor Sisters.

2010au

golygu

Yn 2010 fe ryddhawyd yr albwm Spades & Hoes & Plows ar recordiau Invada. Mae'r albwm yn cynnwys 3 ail-weithiad o hen ganeuon gwerin chwyldroadol ac un darn offerynnol gwreiddiol wedi ei seilio ar Derfysg Rebecca. Cynhyrchwyd yr albwm gan Julian Cope a chafodd ganmoliaeth eang gan adolygwyr.

Tra ddim yn gweithio ar ei gerddoriaeth ei hun, mae Wrench yn gynhyrchydd recordiau a pheiriannydd sain. Bu'n gweithio yn stiwdio Bryn Derwen um Bethesda. Mae ei gredydau fel cynhyrchydd yn cynnwys albymau ar gyfer Bear in Heaven (I Love You, It's Cool), Alessi's Ark (Time Travel), Race Horses (Goodbye Falkenberg), Zun Zun Egui (Katang), Y Niwl, Gwyneth Glyn, Skinny Lister (Forge & Flagon - cyd-gynhyrchwyd gyda'r band), The School ac Euros Childs. Fel peiriannydd mae wedi gweithio ar albymau gan Bat For Lashes, Everything Everything, Kathryn Williams, Guillemotts, Beth Orton, James Yorkston, Nancy Elizabeth a Fanfarlo. Fel cymysgydd, fe weithio ar yr albwm arobryn "Swim" gan Caribou, a'i albwm blaenorol "Andorra". Yn fwy diweddar mae wedi cymysgu albymau gan Is Tropical, Top Less Gay Love Tekno Party, Sunless 97 a Rich Aucoin.[1][2]

Enillodd wobr Cynhyrchydd y Flwyddyn gan C2, BBC Radio Cymru yn 2007, 2009, 2010, 2011, a 2012.

Ar 3 Mai 2009 ymddangosodd Wrench mewn sesiwn ar raglen "Stuart Maconie's Freak Zone" gyda Julian Cope a'i braidd o Ddefaid Du.

Disgyddiaeth

golygu

Albymau

golygu
  • 1997: Blow Winds Blow (LP feinyl/CD, ANKST 78)
  • 1999: You Have Just been Poisened by The Serpents (CD gyda The Serpents)
  • 2005: The Atomic World of Tomorrow (CD)
  • 2010: Spades & Hoes & Plows (CD)

Senglau ac EP

golygu
  • 1990: "Lledrith Lliw" (EP feinyl 12" gyda Nid Madagascar, OFN 011)
  • 1997: "Black Roses" (feinyl 7", ANKST 77)
  • 1997: "The Ballad of the Christmas Tree and the Silver Birch" (feinyl 7")
  • 1998: "No Mask, No Cloak, Dim Gobaith" (feinyl 7" gyda The Serpents)
  • 1998: "Sings the Songs of the Shangri Las" (EP feinyl 7")
  • 2004: "Superhorny" / "Fuck You And Your War on Terror" (feinyl 12" & CD EP)
  • 2004: "World War IV" (CD EP)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Mixing Caribou, FKA Twigs & Jungle. Sound on Sound (Ionawr 2015). Adalwyd ar 1 Mawrth 2016.
  2. (Saesneg) David Wrench - Video interview at Bryn Derwen Studios, Wales.

Dolenni allanol

golygu