Niederkorn

tref Lwcsembwrg

Mae Niederkorn, hefyd Niedercorn (Lwcsembwrgeg: Nidderkuer), yn bentref ym mwrdeistref Differdange y canton Esch-sur-Alzette yn Lwcsembwrg.

Niederkorn
Delwedd:Avenue de la Liberté, Nidderkuer-103.jpg, Kierch Nidderkuer.jpg, Vue op Nidderkuer vum Kierfecht-102.jpg
Mathardal boblog Edit this on Wikidata
Lb-Nidderkuer.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,485 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDifferdange Edit this on Wikidata
GwladLwcsembwrg Edit this on Wikidata
Uwch y môr297 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.5361°N 5.8908°E Edit this on Wikidata
Map
Niederkorn, Rhagfyr 2015
Niederkorn, Rhagfyr 2015

Yn 2005 roedd gan y dref 5,400 o drigolion. Y cymunedau cyfagos yw Sassenheim, Petingen a Käerjeng. Enwyd y dref ar ôl yr afon Korn (Ffrangeg: Chiers). Gerllaw mae ardal Giele Botter, a oedd gynt yn ardal mwyngloddio pyllau agored a heddiw yn ardal natur arbennig, biotop.

Nodweddion

golygu

Lleolir ysbyty "Hôpital Princesse Marie-Astrid", a adeiladwyd rhwng Ionawr 2003 a Mehefin 2007, yn Niederkorn.

Mae bws #1 TICE yn cysylltu Niederkorn â Differdange, Belvaux ac Esch-sur-Alzette.

Mae Niederkorn wedi'i gysylltu â Dinas Lwcsembwrg drwy lein drên sy'n stopio yn Berchem, Bettembourg, Noertzange, Schifflange, Esch-sur-Alzette, Belval Université, Belval Redange, Belvaux Soleuvre, Obercorn, a Differdange, cyn cyrraedd naill ai Athus neu Rodange.

Mae myfyrwyr sy'n mynychu Canolfan Ewropeaidd Dolibois Prifysgol Miami yn cael eu lleoli gyda theuluoedd yn Niederkorn, gan ei bod yn daith bws 10 munud o'r chateau.

Niederkorn yw man geni Tessy Antony, cyn-wraig Tywysog Louis o Lwcsembwrg.[1]

Mae clwb pêl-droed y dref y F.C. Progrès Niederkorn, yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lwcsembwrg ac wedi ennill Cwpan Lwcsembwrg sawl gwaith hefyd. Bu iddynt chwarae y Barri yn 2019.

Daw'r pêl-droediwr Victor Nurenberg, yr awdur Paul Katow, y chwaraewr gwyddbwyll Fiona Steil-Antoni a'r chwaraewr pêl-fasged Thomas Grün o'r dref. Yn y dref hefyd roedd y crwydryn di-gartref adnabyddus, Pierre Adolphe Schockmell, "Dolles" (ganwyd 19 Chwefror, 1896 - 12 Rhagfyr 12, 1970) yn byw. Gosodwyd cofeb iddo ar 24 Medi 2012.[2]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Prince Louis and Princess Tessy are getting a divorce". Luxembourg Times. Cyrchwyd 23 December 2017.
  2. L.E., "Polemik um „Dolles“" (yn German), Luxemburger Wort, https://www.wort.lu/de/lokales/polemik-um-dolles-4f61b3afe4b0860580a9cd91
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lwcsembwrg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.