Bwrdeistref
Math ar awdurdod lleol yw bwrdeistref. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae bwrdeistref (sillafir hefyd fel bwrdeisdref) yn golygu: "Tref sy'n meddu corfforaeth a breiniau wedi eu hawdurdodi gan siarter frenhinol; tref a chanddi hawl i ddanfon cynrychiolydd i'r senedd."[1] Mae'n gytras â'r gair Saesneg borough a defnyddir y gair bwrgaisdref ar adegau sy'n agosach i'r Saesneg wreiddiol.
Enghraifft o'r canlynol | dynodiad ar gyfer endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Math | endid tiriogaethol gweinyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bellach, mae'r term "bwrdeistref" yn meddu ar sawl diffiniad sy'n gallu amrywio'n gynnil o wlad i wlad ac oes i oes.
Caiff pennaeth, neu'n aml, gadeirydd, y fwrdeistref ei chynrychioli gan swydd y maer.
Etymoleg
golyguCofnodir y cyfeiriad ysgrifenedig gyntaf i'r term yn y 13g/14g fel "bordeisseit ydinas" ac yn 14g yn y dywediad, "bwrdeisdref baradwysdref".[1] Mae "bwrdais" yn fenthyciad o Saesneg Canol, burgeis/borgeis; "burgess".[2]
Daw'r gair Saesneg "borough" o'r gwraidd Proto-Germanaidd, *burgz, yn golygu "caer": cymharer â bury, burgh a brough (Lloegr), burgh (Yr Alban), Burg (Almaen), borg (Sgandinafia), burcht, burg (Iseldireg), boarch (Gorllewin Ffrisieg), a benthycwyd y gair i ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill megis; borgo (Eidaleg), bourg (Ffrangeg), burgo (Sbaeneg a Phortiwgaleg), burg (Rwmaneg), purg (Kajkavian), durgo (দুর্গ, Bengali), durg (दर्ग, Hindi) ac arg (ارگ, Persieg), buzi(堡子, Tsieinieg).
Hanes
golyguSefydlwyd nifer o fwrdeistrefi Cymru yn dilyn y concwest Saesneg gan roddi iddynt hawliau masnachu a chynnal ffeiriau. Yn eu mysg oedd Aberystwyth a dderbyniodd ei Siarter Frenhinol fel bwrdeistef gan Edward I, brenin Lloegr yn 1277.[3]
Gwelwyd diwygio llywodraeth leol a chryfhau grymoedd y bwrdeistrefi yn Neddf Diwygio'r Senedd 1832. Yn Neddf Llywodraeth Leol 1888 cryfhawyd bwrdeistrefi er mwyn rhoi gwell cynrychiolaeth a gwasanaeth i'r boblogaeth oedd yn tyfu a newid llawer yn ystod y ganrif flaenorol.[4]
Ers Deddf Llywodraeth Lleol 1974 ni ddefnyddir neu ardderlir y term na'r uned bwrdeistref mor gyffredin yng Nghymru ar gyfer tref unigol ond ceir bellach 7 Bwrdeistref sirol. Ceir hefyd bwrdeistrefi hanesyddol yn Lloegr a rhai cyfoes a gweinyddir Llundain Fwyaf drwy fwrdeistrefi lleol sy'n rhan o Gynulliad Llundain.
Tramor
golyguDefnyddir y gair "bwrdeistref" yn y Gymraeg i gyfeirio at a disgrifio yr hyn a elwir yn "municipalities" mewn gwledydd eraill.[5] Efallai mai yn Efrog Newydd y gwelir y bwrdeistrefi tramor enwocaf fel y Bronx. Bydd arrondissements municipaux dinas Paris yn rhannu rôl tebyg i'r bwrdeistrefi yn Llundain.
Llyfryddiaeth
golygu- John Wynn Roberts, Bwrdeistrefi Cymru yn yr Oesoedd Canol (Aberystwyth: CAA, 1988)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 bwrdeistref. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.
- ↑ bwrdais. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.
- ↑ "History of the Borough: Under the Charters Archifwyd 2018-02-27 yn y Peiriant Wayback, Aberystwyth.gov.uk; adalwyd 19 Ionawr 2021
- ↑ "Twf Democratieath"; BBC Cymru; adalwyd 29 Ionawr 2021
- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. municipality