Nigella Lawson
Newyddiadurwraig, cyflwynwraig teledu ac awdures llyfrau coginio o Saesnes yw Nigella Lucy Lawson (ganed 6 Ionawr 1960).
Nigella Lawson | |
---|---|
Llais | Nigella Lawson BBC Radio4 Woman's Hour 12 Dec 2012 b01p71wg.flac |
Ganwyd | Nigella Lucy Lawson 6 Ionawr 1960 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, llenor |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Tad | Nigel Lawson |
Mam | Vanessa Salmon |
Priod | Charles Saatchi, John Diamond |
Partner | Geoffrey Robertson |
Plant | Cosima Thomasina Diamond, Bruno Paul Nigel Diamond |
Gwefan | http://www.nigella.com/ |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Lawson i Nigel Lawson, cyn-Ganghellor y Trysorlys, a Vanessa Salmon a oedd yn dod o'r teulu a oedd yn berchen ar y cwmni J. Lyons and Co. Wedi iddi raddio o Brifysgol Rhydychen, dechreuodd Lawson weithio adolygwr llyfrau a bwytai, cyn iddi ddod yn is-olygydd llenyddol The Sunday Times yn 1986. Yna dechreuodd yrfa fel newyddiadurwraig annibynnol, yn ysgrifennu ar gyfer nifer o bapurau newyddion a chylchgronau. Ym 1998, cyhoeddodd ei llyfr coginio cyntaf, How to Eat, a werthodd dros 300,000 o gopïau ac a gyrhaeddodd brig y siart lyfrau. Ysgrifennodd ei hail lyfr yn 2000, How to be a Domestic Goddess, gan ennill y teitl Awdur y Flwyddyn iddi wrth y Wobr Llyfrau Prydeinig.
Cyfeiriadau
golygu