Nikita Lalwani
Nofelydd yw Nikita Lalwani (ganwyd 1973). Fe'i ganwyd yn Kota, Rajasthan [1] a'i magwyd yng Nghaerdydd.[2]
Nikita Lalwani | |
---|---|
Ganwyd | 1973 Kota |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd |
Adnabyddus am | Gifted |
Gwobr/au | Desmond Elliott Prize |
Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i un ar bymtheg o ieithoedd. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Bryste[3]
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gifted, yn 2008. Cafodd y nofel ei chynnwys ar restr hir Gwobr Man Booker[4] a rhestr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa.[5] Hefyd, enwebwyd Lalwani fel Nofelydd Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times.[6] Ym Mehefin 2008, enillodd Lalwani y Wobr Desmond Elliott gynaf am ffuglen.[7] Rhoddodd y wobr o £10,000 i ymgyrchwyr hawliau dynol, Liberty.[8]
Cyhoeddwyd ail nofel Lalwani, The Village, yn 2012. Cafodd y nofel ei dewis fel un o wyth o deitlau ymgyrch Fiction Uncovered yn 2013.
Mae Lalwani wedi ysgrifennu ar gyfer The Guardian, New Statesman a The Observer. Hefyd, mae wedi cyfrannu at AIDS Sutra,[9] antholeg yn archwilio bywydau pobl ifanc sy'n byw gyda chyflwr HIV/AIDS yn India.
Mae Lalwani yn byw yng Ngogledd Llundain. Yn 2013, roedd hi'n un o feirniaid Gwobr Orwell, gwobr fwyaf nodedig Prydain ym maes ysgrifennu gwleidyddol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Nikita Lalwani". Man Booker Prize. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-06. Cyrchwyd 6 November 2015.
- ↑ "Nikita Lalwani". Penguin Books. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-31. Cyrchwyd 6 November 2015.
- ↑ "How We Met: Stephen Merchant & Nikita Lalwani". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 January 2009. Cyrchwyd 6 November 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Man Booker Longlist Announced: Man Booker Prize news". Man Booker Prize. 7 August 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 June 2012. Cyrchwyd 6 November 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Costa Book Awards, September 30 2011. Retrieved 6 November 2015.
- ↑ David Byers. "Oxford Literary Festival 2008: Young Writer of the Year". London: The Sunday Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 July 2008. Cyrchwyd 6 November 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "The 2008 Prize, Desmond Elliott Prize". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2018-04-26.
- ↑ Guy Dammann (27 June 2008). "Nikita Lalwani's Gifted wins Desmond Elliott Prize". London: Guardian. Cyrchwyd 10 January 2012.
- ↑ "An infectious cause". India Today. 22 August 2008. Cyrchwyd 6 November 2015.