Nionyn

(Ailgyfeiriad o Nionod)
Nionyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Amaryllidaceae
Is-deulu: Allioideae
Genws: Allium
Rhywogaeth: A. cepa
Enw deuenwol
Allium cepa
L.

Term a ddefnyddir ar gyfer sawl planhigyn yn y genws Allium ydy nionyn, neu winwnsyn. Fe'u hadnabyddir fel arfer fel 'nionod' ond pan ddefnyddir heb ei oleddfu, mae fel arfer yn cyfeirio at Allium cepa sef nionyn gardd neu 'shibwnsyn' a nionyn 'bwlb'.

Mae Allium cepa i'w gael mewn amaeth yn unig,[1] ond mae rhywogaethau gwyllt sy'n pethyn i'w canfod yn Asia Canol. Mae'r rhywogaethau sy'n perthyn agosaf yn cynnwys Allium vavilovii Popov & Vved. a Allium asarense R.M. Fritsch & Matin o Iran.[2] Ond mae Zohary a Hopf yn rhybuddio fod amheuaeth ynglŷn ag os yw gasgliadau vavilovii a brofwyd arnynt yn cynyrchioli gwir ddeunydd gwyllt neu deilliadau fferal o gnwd."[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Allium cepa Linnaeus. Flora of North America.
  2. Grubben, G.J.H. & Denton, O.A. (2004) Plant Resources of Tropical Africa 2. Vegetables. PROTA Foundation, Wageningen; Backhuys, Leiden; CTA, Wageningen.
  3. Daniel Zohary a Maria Hopf, Domestication of plants in the Old World, trydydd argraffiad (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000), t.198
Chwiliwch am nionyn
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lysieuyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.