Monocotyledon

(Ailgyfeiriad oddi wrth Monocot)
Monocotyledonau
Lili fartagon (Lilium martagon)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urddau

Gweler y rhestr

Grŵp mawr o blanhigion blodeuol ag un had-ddeilen yw'r monocotyledonau neu monocotau. Mae tua 60,000 o rywogaethau ledled y byd.[1] gan gynnwys lilïau, tegeirianau, palmwydd a glaswellt. Fel arfer, mae gan y monocotyledonau ddail hir a chul sydd â gwythiennau cyfochrog.[2] Mae'r grŵp yn cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.

UrddauGolygu

Mae dosbarthiad y monocotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[3]

Urdd Enghreifftiau
Acorales gellesgen bêr
Alismatales llyriad y dŵr, gwellt y gamlas, llinad y dŵr, pidyn y gog
Petrosaviales
Dioscoreales iam
Pandanales sgriwbinwydden
Liliales lili, tiwlip, cwlwm cariad
Asparagales merllys, cenhinen, cenhinen Bedr, garlleg, eirlys, tegeirian
Comelinidau
   Teulu Dasypogonaceae (urdd ansicr)
   Arecales palmwydden
   Commelinales llysiau'r corryn
   Poales glaswellt, gwenith, haidd, reis, hesgen, brwynen, bromelia
   Zingiberales sinsir, banana

CyfeiriadauGolygu

  1. Hamilton, Alan & Patrick Hamilton (2006) Plant conservation : an ecosystem approach , Earthscan, Llundain.
  2. Mauseth, James D. (2009) Botany: an introduction to plant biology (4ydd arg.), Jones & Bartlett, Sudbury, Massachusetts.
  3. The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.