No More Lockdowns (plaid wleidyddol)

Mae No More Lockdowns (Cymru Sovereign gynt) yn blaid wleidyddol Eurosceptig galed a genedlaetholdeb Cymreig yng Nghymru sydd wedi'i chofrestru a'i reoleiddio gan Gomisiwn Etholiadol y Deyrnas Unedig. Cafodd y blaid ei sefydlu a'i chofrestru'n ffurfiol ym mis Mawrth 2016 dan yr enw Cymru Sovereign ar ôl bod yn grŵp yn lobïo a deisebu Llywodraeth Cymru. Un o'r ymgyrchoedd roedd yr arweinydd, Gruffydd Meredith yn rhedeg oedd creu ail siambr yn y Senedd.[1] Ar hyn o bryd mae wedi'i gofrestru i sefyll mewn etholiadau yng Nghymru ac mae'n cydymffurfio â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.[2]

No More Lockdowns
Dim Mwy O Gloi Lawr
ArweinyddGruffydd Meredith
TrysoryddJustin Lilley
SefydlwydMawrth 2016 (2016-03)
Rhestr o idiolegauCenedlaetholdeb Cymreig
Annibyniaeth i Gymru
Ewrosgeptiaeth Caled
Sofran Cymru
Gwrth cyfyngiadau COVID-19
Senedd Cymru
0 / 60
Gwefan
https://nomorelockdowns.wales/

Mae'r blaid yn credu y dylai Cymru fod yn wladwriaeth hollol sofran yn y byd, y tu hwnt i reolaeth Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn Llundain a'r Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn cefnogi creu system punt ac arian sofran Cymraeg didyled i Gymru gyda'i banc ei hun.[3] Safodd y blaid yng Ngorllewin Casnewydd yn etholiadau Cynulliad Cymru 2016, lle daeth yn olaf gyda 38 pleidlais.[4]

Mewn darn barn yn Y Cymro ar 10 Mai 2019 dywedodd arweinydd y blaid, Gruffydd Meredith, ei fod eisiau gweld Cymru yn ffynni fel gwlad annibynnol drwy greu arian ei hunan sydd yn rhydd o ddyled. Mae Meredith eisiau creu system economaidd gymysg gan dorri rhydd o 'gaethwasaidd bresennol' yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig.[5]

Ymunodd y blaid mewn trafodaeth ar ôl Gorymdaith Annibyniaeth AUOB Caernarfon ar Orffennaf 2019. Roedd y fforwm rhwng pleidiau sy'n cefnogi Annibyniaeth; Plaid Cymru, Gwlad a Chymru Sovereign wedi ei chadeirio gan Dr. Carl Clowes.[6] Cafodd hyn ei beirniadu gan grwp gwrth asgell dde eithafol (Far Right Watch Wales) er nad yw'r blaid yn un asgell dde eithafol.

Cafodd y blaid ei ail-frandio ym mis Mawrth 2021 dan y faner 'Dim Mwy O Gloi Lawr i Gymru' er mwyn gwrthwynebu 'cyfyngiadau clo' COVID-19 oedd mewn lle ar y pryd.[7] Sefodd y blaid yn 2 rhanbarth ac un etholaeth yn etholiad Senedd Cymru, 2021. Yn yr etholiad yma cafodd y blaid gyfanswm o 2,967 o bleidleisiau.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bodden, Tom (2013-07-22). "The House of Llords: Call for second chamber in National Assembly". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-17.
  2. Gweld Cofrestriad - Cymru Sovereign - Comisiwn Etholiadol
  3. "Plaid newydd yn galw am "annibyniaeth lwyr" i Gymru". Golwg360. 4 Mai 2016. Cyrchwyd 2020-07-10.
  4. "Newport West - Welsh Assembly constituency - Election 2016". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-10.
  5. Meredith, Gruffydd (2019-05-10). "Gall, mi all Gymru ffynnu yn hyderus ac annibynnol wrth greu ei harian ei hun". Y Cymro. Cyrchwyd 2020-07-10.
  6. Gwyn Jôb, Aled (2019-07-24). "Saturday's march is an opportunity to set a political route map for independence". Nation.Cymru (Barn) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-10.
  7. "View registration - The Electoral Commission". search.electoralcommission.org.uk. Cyrchwyd 2021-04-17.
  8. Mosalski, Ruth (2021-05-07). "Senedd election 2021 result in the South Wales East region". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-21.

Dolenni allanol

golygu