Annibyniaeth i Gymru

delfryd gwleidyddol yw annibyniaeth i Gymrua fyddai'n gweld Cymru'n rheoli ei hadnoddau ei hun, ac yn ennill annibyniaeth iddi ei hun fel gwladwriaeth sofran

Delfryd gwleidyddol yw annibyniaeth i Gymru (ac ymreolaeth i Gymru) a fyddai'n gweld Cymru'n ymwahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig, yn rheoli ei hadnoddau ei hun, ac yn ennill annibyniaeth iddi ei hun fel gwladwriaeth sofran. Plaid Cymru yw'r garfan amlycaf sy'n cefnogi annibyniaeth,[1] ar y cyd â'r mudiad amhleidiol Cymreig, YesCymru. Yn y pôl diweddaraf roedd 30% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth. Mae'r Alban yn paratoi ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth a daeth uno Iwerddon yn bosibl; byddai hyn yn gadael Cymru a Lloegr.

Welsh independence march Cardiff May 11 2019 10.jpg
Gorymdaith gyntaf YesCymru a AUOBCymru yng Nghaerdydd ym Mai 2019
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolannibyniaeth Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCymru Fydd, YesCymru, Ymgyrch Senedd i Gymru Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1868 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Cafwyd sawl ymgyrch dros annibyniaeth yn y gorffennol, gan gynnwys Cymru Fydd (1868–1899?), Ymgyrch Senedd i Gymru, dan gadeiryddiaeth Megan Lloyd George yn 1951, 'Ymgyrch dros Gynulliad Cymreig' a'r 'Ymgyrch Senedd i Gymru' yn y 1970au a'r 1980au ac YesCymru yn niwedd y 2010au a oedd a 15,000 o aelodau erbyn 2020; ar ddechrau'r flwyddyn, cyn cyhoeddi'r pandemig Coronafirws, tua mil a hanner o aelodau oedd ganddi. Mae hyn yn dangos fod cynnydd aruthrol wedi bod o blaid annibyniaeth yng Nghymru yn y cyfnod hwn.

Ceir sawl maes sy'n rhaid eu newid cyn y gellir wrth annibyniaeth. Un o brif argymhellion Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru ar 24 Hydref 2019 ac adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Cymru flwyddyn yn ddiweddarach oedd creu awdurdodaeth gyfreithiol (Saesneg: Jurisdiction) benodol i Gymru.[2] Nododd y Comisiwn: 'Mae angen gwell system ar bobl Cymru ac maent yn haeddu hynny.' Maes arall yw Cyfansoddiad i'r genedl, yr hyn a elwir yn 'Gyfansoddiad Cymru' - rhywbeth sy'n eiddo i bron holl genhedloedd y byd oddigerth i'r DU.

Un o'r pethau sy'n gyrru pobl at Gymru annibynnol yw dŵr, gan na thelir yr un geiniog am ddŵr Cymru i bobl Cymru; felly hefyd egni. Daeth yn wybodus yn ddiweddar (2020) mai Cymru yw'r 3ydd allforiwr mwyaf o egni yn y byd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr hawl i fenthyg arian er mwyn buddsoddi mewn cynlluniau anferthol megis Morlyn Abertawe, a wrthodwyd gan Lywodraeth San Steffan. Yn ddiweddar hefyd y medrwyd cyfrifo Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Cymru; daeth yn amlwg yn 2019 fod y GDP y pen yn uwch na De Corea, Sbaen, Portiwgal, Y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. GDP y pen Cymru yw ; mae Sbaen yn a Phortiwgal yn .

6% yn unig o seddi Tŷ’r Cyffredin a glustnodir i Gymru. Mewn etholiadau cyffredinol, does wahaniaeth sut fydd Cymru’n pleidleisio, ar ddiwedd y dydd y llywodraeth a etholir gan Loegr a geir yn San Steffan. Dim ond dwywaith ers 1945 mae pleidleisiau Cymry wedi dylanwadu ar fap gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol (DU), sef rhwng 1964 a 1966.

Hanes yr ymyrch dros annibyniaethGolygu

Y 19gGolygu

Bu Cymru unwaith yn wlad annibynnol sofran, ond daeth hyn i ben yn y 15g pan gipiwyd ei sofraniaeth oddi wrth Owain Glyn Dŵr, ac aeth yn rhan o Goron Lloegr.

Yn 1868 sefydlwyd Cymru Fydd yn Llundain ac ymhlith ei harweinyddion roedd David Lloyd George (1863–1945) a Thomas Edward Ellis (1859–1899), dau Ryddfrydwyr. Yn y 1890au, defnyddiodd Lloyd George ei safle fel Aelod Seneddol i ddadlau'n frwd yn Senedd San Steffan dros achosion fel Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth ("Home Rule" neu "Ymraeolaeth") i Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Ond daeth trai ar ffawd Cymru Fydd a throdd Lloyd George fwyfwy at wleidyddiaeth Brydeinig, gan godi yn rhengoedd y Blaid Ryddfrydol. Gweithiai Tom Ellis yn ddiwyd dros addysg Gymraeg, yr ymdrech i greu ac ehangu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, Diwygio'r Tir ac Ymreolaeth i Gymru (hunanlywodraeth). Roedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones hefyd wedi galw am hunanlywodraeth i Gymru yn y 19g, ac roedd y Blaid Lafur gynnar yn frwd iawn dros hunanlywodraeth, tan 1918.

Bu Cymru Fydd yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'. Daeth i ben ychydig wedyn.

Ceisiodd y mudiad roi yr un hawliau i Gymru ag oedd gan y 'Genhedloedd Gartref' gan fwyaf, a hynny o fewn Ymerodraeth Prydain. Rhoddodd y Rhyfel Mawr ddiwedd arni, a thawel oedd yr ymgyrchu dros annibyniaeth nes i Saunders Lewis ail gynnau'r fflam pan sefydlodd Blaid Cymru.

Y 20gGolygu

Cenedl rydd, annibynnol oddi fewn i Ewrop oedd breuddwyd Saunders pan sefydlodd Plaid Cymru (neu'r 'Blaid Genedlaethol' yn wreiddiol) ym Mhwllheli yn 1925. Yn hanner cyntaf yr 20g, gwelwyd llawer o ddatganoli gweinyddol:

Gwelwyd hefyd sefydlu sawl prifysgol a Llyfrgell Genedlaethol. Erbyn 1945 roedd 15 adran o Lywodraeth wedi'u sefydlu yng Nghymru. Yn y 1930au a'r 1940 ymgyrchwyd dros Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol. Ni chafwyd hyn, ond sefydlwyd swydd lai, sef swydd Gweinidog Gwladol dros Faterion Cymreig. Yn 1957 unwyd y swydd gyda'r Gweinyddiaeth Tai a Llywodraeth Leol. Sefydlwyd y Cyngor dros Gymru a Sir Fynwy yn 1949 a baratodd y ffordd i greu'r hyn a alwyd yn ddiweddarach yn Swyddfa Gymreig.

1950auGolygu

Yn 1951 lansiwyd Ymgyrch Senedd i Gymru, dan gadeiryddiaeth Megan Lloyd George (AS Rhyddfrydol Ynys Môn ar y pryd). Roedd yn fudiad amhleidiol gyda'r nod o ennill senedd lawn. Aeth yr ymgyrch ati i gasglu deiseb o 250,000 o lofnodion yn yr ymgyrch gyntaf i alw am Senedd i Gymru.

Yn 1955, cynigiodd S. O. Davies (A.S. Llafur dros Ferthyr) Fesur Aelod Preifat o blaid Senedd ond fe'i trechwyd o 64 pleidlais i 16. Roedd Davies yn is-lywydd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr ac yn hallt iawn ei feirniadaeth o sut y cafodd teuluoedd Trychineb Aberfan eu trin. Yn 1957 cyflwynodd Cyngor Cymru gais i Lywodraeth Lloegr i ddod ag amryw o'r swyddfeydd llywodraethol at ei gilydd dan yr enw 'y swyddfa Gymreig', ond gwrthodwyd y cais hwn gan y Ceidwadwr Harold Macmillan, Prif Weinidog y DU. Ymddiswyddodd y Cyngor cyfan, mewn protest. Yn ogystal a hyn, ymddiswyddodd Huw T. Edwards (1892 – 1970), Cadeirydd y Cyngor, o'r Blaid Lafur ac ymunodd gyda Phlaid Cymru.

1960auGolygu

o 1963 ymlaen, trodd llawer o genedlaetholwyr eu trem tuag at diogelu'r Gymraeg 'fel arf gwleidyddol', a gwelwyd sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedd methiant Plaid Cymru i amddiffyn pentref bychan Capel Celyn yn rhannol gyfrifol am dwf y Gymdeithas.

Yn 1964 sefydlodd y Llywodraeth Lafur 'Y Swyddfa Gymreig', gan gyfyngu ar ei phwerau i ddim ond tai, Llywodraeth Leol a ffyrdd. Ychwanegwyd addys a hyfforddiant, iechyd, amaeth, yr amgylchedd, cynllunio'r economi, masnach a diwydiant erbyn 1973. Yn hwyr yn y 1970au rhoddwyd yr un statws i'w phrif was sifil (yr Ysgrifennydd Parhaol) a'r gweision eraill a oedd yn arwain adrannau eraill o Whitehall.

Yn 1966 sefydlwyd Comisiwn Brenhinol i edrych i'r gyfundref lysoedd yng Nghymru, gyda Richard Beeching yn ei gadeirio, peiriannydd a chyn gadeirydd y British Rail, dyn a oedd heb unrhyw gysylltiadau â Chymru. Roedd drafft cyntaf ei argymhellion yn cynnig rhannu Lloegr yn ddwy rhan, gan roi Gogledd y wlad gyda Gogledd Lloegr a'r De gyda Gorllewin Lloegr. Yn dilyn ymgyrch gan gyfreithwyr Cymru, cydsyniwyd i drin Cymru fel uned, gyda'i gweinyddiaeth yng Nghaerdydd.[3]

Yn 1966 enillodd Plaid Cymru, yr unig blaid a gredai mewn annibyniaeth eu sedd gyntaf, a dilynwyd hynny y flwyddyn wedyn gyda'r SNP yn yr Alban yn gweld y genedlaetholwraig Winnie Ewing yn cipio sedd Hamilton.

Ar 15 Ebrill 1969 crewyd Comisiwn Brenhinol arall (Comisiwn Commission Crowther a Kilbrandon) i edrych ar Gyfansoddiad y DU, a ffrwyth eu llafur, a gyhoeddwyd ar 31 Hydref 1973, oedd argymhelliad y dylid creu Cynulliad Etholedig i Gymru.[4][5]

1979Golygu

Yn dilyn argymhelliad Comisiwn cafwyd Refferendwm datganoli i Gymru, 1979 pan bleidleisiodd 79.74% yn erbyn datganoli. Adwaith i hyn oedd Ymgyrch llosgi tai haf. Ond gosodwyd hefyd egwyddor hynod o bwysig ym meddyliau pobl Cymru - mai yn eu dwylo nhw, a neb arall, yr oedd dyfodol cyfansoddiadol Cymru.[6][7][8]

1980au - 1990auGolygu

Yn dilyn cyflafan y pyllau glo, yng nghyfnod Llywodraeth Thatcher yn y 1980au, syrthiodd y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yn is nag erioed. Cydymdeimlodd Cymru gyfan gyda'r glowyr. Yn 1987 sefydlwyd yr Ymgyrch dros Gynulliad Cymreig.

Drwy'r 1990au, cynyddodd y teimlad trawsbleidiol y dylai Cymru gaelCynulliad etholedig, a newidiwyd enw'r 'Ymgyrch dros Gynulliad Cymreig' i 'Ymgyrch Senedd i Gymru'. Daeth y Blaid Lafur i rym yn 1997, ac roedd ei maniffesto'n cynnwys ymrwymiad i greu Cynulliad. Cyhoeddwyd Papur gwyn a alwyd yn Llais dros Gymruyng Ngorffennaf 1977. Ar 18 Medi 1977 cynhaliwyd ail refferendwm, sef Refferendwm datganoli i Gymru, 1997 pan bleidleisiodd y mwyafrif dros ddatganoli. Yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd oedd Ron Davies. Etholwyd y 'Cynulliad Cenedlaethol' yn 1999, a datblygodd, o ran ei bwerau, dros gyfnod o amser:

21gGolygu

 
Annibyniaeth yn dy Boced; un o lyfrynnau YesCymru

Yn 2020 daeth Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) i rym a gwelwyd oed pleidleisio yn gostwng i 16 oed a newid enw'r Cynulliad yn 'Senedd Cymru' (Mai 2020). Yn San Steffan, gyda'r Ceidwadwyr mewn grym, pasiwyd bil a elwir yn Fesur y Farchnad Fewnol, sy'n rhoi'r hawl i San steffan wyrdroi datganoli. Yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford mae'r Mesur yma'n cynrychioli “smash and grab” ar y llywodraethau datganoledig ac yn cymryd yn ôl yr holl bwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban ers 20 mlynedd.[9]

Un o arweinwyr pwysicaf YesCymru yw Siôn Jobbinsac fel y dywedwyd rhwng Ionawr a Thachwedd 2020, tyfodd ei haelodaeth ddeg gwaith cymaint: o 1,500 i 15,00. Yn ogystal â YesCymru, mae Pawb Dan Un Faner Cymru yn fudiad cyfoes a seiliwyd ar All Under One Banner yr Alban. AUOBCymru ar y cyd gyda YesCymru a drefnodd y gorymdeithiau mwyaf a welodd unrhyw fudiad dros annibyniaeth Cymru:

  • Gorymdaith dros Annibyniaeth Merthyr Tudful, 7 Medi 2019 gyda dros 2,000 yn bresennol
  • Gorymdaith dros Annibyniaeth Caernarfon, 27 Gorffennaf 2019 gyda dros 10,000 yn bresennol
  • Gorymdaith dros Annibyniaeth Caerdydd, 11 Mai 2019 gyda dros 6,000 yn bresennol

Poliau piniwnGolygu

Yn Ebrill 2020 comisiynwyd y cwmni poliau 'Survation' i fesur yr ymdeimlad tuag at annibyniaeth yng Nghymru. Holwyd 3,039 o bobl ledled Cymru, gyda 69% yn ddi-Gymraeg. Gofynnwyd i bobl sut roedden nhw wedi pleidleisio yn yr etholiad diwethaf, ac yna a oedden nhw'n cefnogi annibyniaeth i Gymru; dyma'r atebion a gafwyd:

Y canrannau a bleidleisiodd dros annibyniaeth, o bob plaid
LLAF CEID PLAID C BREXIT DEM Rh ERAILL
O blaid 44% 7% 68% 19% 36% 9%
Yn erbyn 56% 93% 32% 81% 64% 91%

Gofynnwyd hefyd ym mhôl Surveytion ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd:

"Byddwch gystal â dychmygu senario lle gallai Cymru ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd pe bai'n dod yn wlad annibtnnol. Pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yng Nghymru ynghylch dod yn wlad annibynnol, ac os mai hyn fyddai'r cwestiwn, yna sut fyddech chi'n pleidleisio? A ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol?"

Cafwyd yr ymateb a ganlyn:

  • Dylai = 39%
  • Na ddylai = 61%

Yn fwy manwl:

Senario lle gallaiCymru ailymuno â'r EU pe bai'n dod yn annibynnol
LLAF CEID PLAID C BREXIT DEM Rh ERAILL
O blaid 59% 11% 65% 22% 74% 22%
Yn erbyn 41% 89% 35% 78% 26% 78%

Cododd y lefel o blaid annibyniaeth hefyd mewn senario lle rhannwyd cyfrifoldebau allweddol (ee amddiffyn a materion tramor) gyda llywodraethau eraill y DU:

Cafwyd 38% o blaid annibyniaeth a 62% yn erbyn. Dyma'r manylion:

Caption text
LLAF CEID PLAID C BREXIT DEM Rh ERAILL
O blaid 56% 13% 71% 22% 47% 9%
Yn erbyn 44% 87% 29% 78% 53% 91%

Ym Mehefin 2020 cynhaliodd YouGov bôl piniwn, lle gofynnwyd, a yw'r person o blaid, yn chwilfrydig neu'n erbyn annibyniaeth. Dyma'r canlyniad:

Hoff ddewisiadau'r unigolyn ar annibyniaeth Ateb
Yn erbyn annibyniaeth 36%
Yn chwilfrydig dros annibyniaeth 27%
Hyderus am annibyniaeth 37%

Materion ariannolGolygu

Yn 22017, yn dilyn Deddf Cymru 2017 & Deddf Cymru 2017, sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru a chodwyd trethi yng Nghymru am y tro cyntaf mewn 800 o flynyddoedd. Roedd hyn yn ddatganoli pwer o Lundain i Gymru, dan ofal Senedd Cymru. Ffurfiwyd Canolfan Llywodraethiant Cymru sy'n rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn 1999, gyda'r Athro Richard Wyn Jones yn gyfarwyddwr arni. Dyma'r ffynhonnell orau o ddata a gwybodaeth arall ar gyllid ac economi Cymru, yn enwedig eu cyhoeddiad Wales’ Fiscal FutureA path to sustainability? a olygai bod mantolen Cymru bellach ar gael.[10] Nodir yn yr adroddiad mai'r diffyg rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a'r gwario cyhoeddus yw £13.5 biliwn; nodir hefyd mai refeniw trethiant yw'r drwg, a'r rheswm am hynny yw cyflogau isel.

O blaidGolygu

Yn 2020 nododd yr Athro Mark Barry, o Brifysgol Caerdydd, nad yw Cymru'n rhy dlawd. "If it were, Wales would be unique globally, of being the only place where an independent country of 3M people could not exist."[11]

Fel a nodwyd, nid yw Canolbarth Lloegr, Lerpwl na Bryste'n talu am ddŵr Cymru i bobl Cymru; felly hefyd egni. Daeth yn wybodus yn ddiweddar (2020) mai Cymru yw'r 3ydd allforiwr mwyaf o egni yn y byd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr hawl i fenthyg arian er mwyn buddsoddi mewn cynlluniau anferthol megis Morlyn Abertawe, a wrthodwyd gan Lywodraeth San steffan. Yn ddiweddar hefyd y medrwyd cyfrifo Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Cymru; daeth yn amlwg yn 2019 fod y GDP y pen yn uwch na De Corea, Sbaen, Portiwgal, Y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. GDP y pen Cymru heddiw yw , mae Sbaen yn a Phortigal yn .

Cymhariaeth arall yw Iwerddon rydd a Gogledd Iwerddon, mae gan y cyntaf GDP y pen o ac Gogledd Iwerddon GDP y pen o .

Yn erbynGolygu

Y ddadl ariannol yn erbyn annibyniaeth, rhan amlaf, yw fod gan Gymru ddiffyg; yn 2018-19 roedd y 'diffyg' hwnnw yn 18% o GDP y pen, sef £4,300 y person. Dim ond 3 o ranbarthau Lloegr sydd heb ddiffyg ariannol, a'r rheiny i gyd yn Ne Lloegr. Mae Cymru, felly, yn un o 'ranbarthau' tlotaf y DU. Yr wrthddadl yw fod hyn yn cael ei greu'n fwriadol gan economi sydd yn cael ei yrru yn Llundain, ac nad yw'n buddsoddi digon y tu allan i Lundain. Dywedwyd hyn yn adroddiad Comisiwn UK2070 dan gadeiryddiaeth Arglwydd Kerslake mai "Prydain yw un o wledydd mwyaf anghyfartal a rhanedig Ewrop'.[12]

Dadl arall yw fod Cymru'n rhy fach i gael ei byddin ei hun, a'i bod angen brenhiniaeth.

LlyfryddiaethGolygu

  • Annibyniaeth Cymru (Gwasg y Lolfa; 2020); Adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Cymru
  • K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
  • David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)
  • John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), tt. 634-5.
  • Alan Burt Philip, The Welsh Question: Nationalism in Welsh Politics 1943-70 (1975)

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1.  Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Plaid Cymru. Adalwyd ar 30 Mehefin 2012.
  2. llyw.cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020
  3. senedd.wales;[dolen marw] adalwyd 4 Rhagfyr 2020.
  4. Royal Commission on the Constitution 1969 – 1973, Cyfrol I, Adroddiad (Cmnd 5460)
  5. "Royal Commission on the Constitution 1969–73: Cyfrol II: memorandum of dissent by Lord Crowther-Hunt and Professor A.T. Peacock". British Official Publications Collaborative Reader Information Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2007.
  6. Carn Spring 1981 No33 Tud 12 Arson Campaign Re-starts [1] adalwyd 28 Mawrth 2016
  7. Gruffydd, Alwyn: Mae Rhywyn yn Gwybod, Gwasg Carreg Gwalch 2004; ISBN 0-86381-675-4
  8. Sul y Blodau: Holi'r Heddlu Cudd
  9. Chappell, Elliot. "Drakeford slams internal markets bill as "smash and grab" on devolution". Labour List. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
  10. cardiff.ac.uk; adalwyd 6 Rhagfyr 2020.
  11. nation.cymru; teitl: What sort of Wales do we want?; erthygl gan Mark Barry; adalwyd 6 Rhagfyr 2020.
  12. Adroddiad UK2070: 'Go big, go local: The UK2070 Report on a New Deal for Levelling Up the United Kingdom'; Medi 2020; adalwyd Rhagfyr 2020.