Stribyn o garreg siâl yn ne Gwynedd yw'r Nod Glas. Defnyddir yr enw Cymraeg traddodiadol hwn, a fathwyd gan werin Meirionnydd, gan ddaearegwyr i gyfeirio at fand o garreg siâl feddal o liw glas tywyll neu ddu sy'n ymestyn o gyffiniau Tywyn ar lan Bae Ceredigion drwy ardaloedd Corris ac Abergynolwyn i ran uchaf dyffryn Afon Dyfi ger Dinas Mawddwy.[1]

Nod Glas
Mathformation Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.653°N 3.841°W Edit this on Wikidata
Map

Am filltiroedd lawer o'i fan cychwyn ger Tywyn mae'r stribyn o siâl asidig hwn, â'i led yn amrywio o tua 35 i 70 troedfedd, yn ymestyn ar draws de-orllewin Meirionnydd. Ger Dinas Mawddwy mae'n cyfuno gyda band o garreg calchfaen sy'n creu cynefin ffrwythlon i blanhigion yn rhan uchaf dyffryn Dyfi. Dan wyneb y tir mae'r Nod Glas am y rhan fwyaf o'i gwrs, ond daw i'r wyneb ger Dinas Mawddwy gan fod llednentydd Afon Dyfi wedi ei erydu.[1]

Roedd y Nod Glas yn gyfarwydd i chwarelwyr ardal Corris wrth gloddio fel arwydd fod y haenau o lechi yn darfod. Fe ymddengys mai bugeiliaid lleol a roddodd yr enw arno gan eu bod yn ei ddefnyddio, yn y lleoedd lle mae ar wyneb y tir, i farcio eu defaid gyda nod glas.[1]

Ceir englyn gan fardd gwlad dienw sy'n cyfeirio ato:

O Fawddwy ddu ni ddaw - dim allan
A ellir ei rwystraw;
Ond tri pheth helaeth hylaw,
Dyn atgas, Nod Glas, a gwlaw.[1]

Mae'r garreg hon yn gyfoethog mewn ffosilau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 W.M. Condry, The Snowdonia National Park (Collins New Naturalist, Llundain, 1967), tud. 32-3.