Genre o ffuglen ryddiaith yw'r nofel bicarésg (Sbaeneg: picaresca, sy'n deillio o pícaro, sef "dihiryn" neu "gwalch").

Nofel bicarésg
Math o gyfrwngnovel genre Edit this on Wikidata
Mathnofel antur, comic novel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tarddodd y nofel bicarésg yn Sbaen yn yr 16g. Yn nodweddiadol mae stori o'r fath yn disgrifio sut mae rhyw arwr o dihiryn yn ymlwybro trwy'r byd mewn cyfres o anturiaethau. Daw'r arwr o ddosbarth cymdeithasol isel. Er ei fod heb addysg mae'n gyfrwys. Er mwyn goresgyn ei wreiddiau isel, mae'n chwilio'n gyson am gyfleoedd i gael dyrchafiad a gall droi at droseddu. Mae'n taro ar bobl o bob dosbarth cymdeithasol ac yn cael profiad o'u beiau a gwendidau. Nid oes gan yr arwr unrhyw ddylanwad ar y digwyddiadau o'i gwmpas, ond mae bob amser yn llwyddo i achub ei hun rhag sefyllfaoedd peryglus.

Er bod gan y genre ragflaenwyr hynafol, megis Satyricon Petronius ac Asinus aureus Apuleius, dechreuodd traddodiad y nofel bicarésg gyda'r llyfr Sbaeneg Lazarillo de Tormes (1554), a gyhoeddwyd yn ddienw oherwydd ei chynnwys gwrtheglwysig. Wedyn, gan ddilyn esiampl yr awduron o Sbaen, ffynnodd y genre ledled Ewrop am fwy na 200 mlynedd. Mae’n parhau i ddylanwadu ar lenyddiaeth a ffuglen fodern.

Dolenni allanol

golygu