Ynys yn yr Arctig yn perthyn i Norwy yw Nordaustlandet (Norwyeg, yn golygu "Tir yn y Gogledd-ddwyrain"). Mae'n un o ynysoedd Svalbard, a saif i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ynys, Spitsbergen.

Nordaustlandet
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSvalbard Edit this on Wikidata
SirSvalbard Edit this on Wikidata
GwladNorwy Edit this on Wikidata
Arwynebedd14,467 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Barents Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau79.8°N 22.4°E Edit this on Wikidata
Hyd170 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'n ynys gymharol fawr, 144 km o'r gogledd i'r de a 175 km o'r gorllewin i'r dwyrain, gydag arwynebedd o 14,433 km2; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Saif yr ynys ger y ffin thwng Cefnfor yr Arctig a Môr Barents. Gorchuddir y rhan fwyaf o'r ynys gan rew, yn cynnwys Austfonna, rhewlif ail-fwyaf Ewrop.

Nordaustlandet
Nordaustlandet
Eginyn erthygl sydd uchod am Norwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.