Svalbard
Ynysoedd yn yr Arctig yn perthyn i Norwy yw ynysoedd Svalbard. Cyfeirir atynt yn aml, yn anghywir, fel Spitsbergen ar ôl yr ynys fwyaf. Yr ynysoedd hyn yw'r rhan fwyaf gogleddol o Norwy. Dim ond ar dair o'r ynsoedd, Spitsbergen, Bjørnøya a Hopen, y mae poblogaeth barhaol. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,756. Longyearbyen yw'r pentref mwyaf a "phrifddinas" yr ynysoedd.
![]() | |
Math |
Ynysfor, integral overseas territory, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Longyearbyen ![]() |
Poblogaeth |
2,668 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Kjerstin Askholt ![]() |
Cylchfa amser |
CET ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Norwyeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Norwy ![]() |
Gwlad |
Norwy ![]() |
Arwynebedd |
61,022 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr |
1,713 metr ![]() |
Gerllaw |
Môr Norwy ![]() |
Cyfesurynnau |
78.16°N 15.86°E ![]() |
NO-21 ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Governor of Svalbard ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Kjerstin Askholt ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Tentative World Heritage Site ![]() |
Manylion | |
Arian |
Norwegian krone ![]() |
Yr ynysoedd mwyaf yw Spitsbergen (39.000 km²), Nordaustlandet (14.600 km²) ac Edgeøya (5.000 km²); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Barentsøya, Lågøya, Hopen, Danskøya, Kvitøya a Wilhelmøya. Y copa uchaf yw Newtontoppen (1,717 medr). Gorchuddir 60% o Svalbard gan rew. Ceir nifer fawr o adar yma, ac mae Svalbard yn arbennig o bwysig oherwydd y niferoedd o'r Ŵydd Wyran (Branta leucopsis) a'r Ŵydd Droedbinc sy'n nythu yma.