Notes of a Native Son

Llyfr ffeithiol gan James Baldwin yw Notes of a Native Son. Hwn oedd ei lyfr ffeithiol cyntaf, ac fe'i cyhoeddwyd ym 1955. Mae'r gyfrol yn casgliad o ddeg o draethodau Baldwin, a oedd wedi ymddangos o'r blaen mewn cylchgronau fel Harper's Magazine, Partisan Review, a The New Leader. Mae'r traethodau ar y cyfan yn mynd i'r afael â materion hil yn America ac Ewrop.[1]

Notes of a Native Son
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJames Baldwin Edit this on Wikidata
CyhoeddwrBeacon Press Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1955 Edit this on Wikidata
GenreTraethodau

Crynodeb golygu

"Autobiographical Notes" golygu

Er gwaetha'r ffaith bod ei dad eisiau iddo fod yn bregethwr, dywedodd Baldwin mai awdur oedd wasted ei bod mewn gwirionedd. Ceisiodd ddod o hyd i'w lwybr fel ysgrifennwr Negroaidd; er nad oedd yn Ewropeaidd, mae diwylliant America yn cael ei lywio gan y diwylliant hwnnw hefyd—ar ben hynny roedd yn rhaid iddo fynd i'r afael ag awduron croenddu eraill. Yn ogystal, mae Baldwin yn pwysleisio pwysigrwydd ei awydd i fod yn awdur ac yn ddyn da.

Rhan Un golygu

"Everybody's Protest Novel" golygu

Mae Baldwin yn beirniadau Caban Yncl Tom gan Harriet Beecher Stowe am fod yn rhy sentimental, ac am ddarlunio caethweision duon yn gweddïo ar Dduw gwyn er mwyn cael eu glanhau a'u gwynnu. Mae'n mynd ymlaen i ymwrthod â Native Son gan Richard Wright am bortreadu Bigger Thomas fel dyn croenddu blin, gan ystyried hyn yn enghraifft o gategoreiddio categoreiddio.

"Many Thousands Gone" golygu

Mae Baldwin yn cynnig beirniadaeth lem o Native Son Richard Wright, gan nodi bod ei brif gymeriad, Bigger Thomas, yn afrealistig, yn ddigydymdeimlad ac yn ystrydebol.

"Carmen Jones: The Dark Is Light Enough" golygu

Mae Baldwin yn beirniadu Carmen Jones, addasiad ffilm o Carmen sy'n ddefnyddio cast croenddu i gyd. Mae Baldwin yn anhapus nad yw'r cymeriadau'n dangos unrhyw gysylltiad â chyflwr pobl dduon ac nid yw'n credu bod y ffaith fod gan y prif gymeriadau wedd ysgafnach yn gyd-ddigwyddiad.

Rhan Dau golygu

"The Harlem Ghetto" golygu

Mae Baldwin yn tynnu sylw at y ffaith bod rhent yn ddrud iawn yn Harlem. Ar ben hynny, er bod gwleidyddion croenddu, mae'r Arlywydd yn wyn. Ymlaen at y wasg groenddu, mae Baldwin yn nodi ei bod yn efelychu'r wasg croen wyn, gyda'i glecs cywilyddus ac ati. Fodd bynnag, ymddengys iddo fod yr Eglwys groenddu yn fforwm unigryw ar gyfer amlygyu anghyfiawnder croenddu. Yn olaf, mae'n pendroni ar wrthsemitiaeth ymysg pobl dduon ac yn dod i'r casgliad bod y rhwystredigaeth yn deillio o'r ffaith bod Iddewon yn wyn ac yn fwy pwerus na Negroaid.

"Journey to Atlanta" golygu

Mae Baldwin yn adrodd stori The Melodeers, grŵp o gantorion jazz a gyflogir gan y Y Blaid Flaengar i ganu mewn Eglwysi Deheuol. Fodd bynnag, unwaith yn Atlanta, Georgia, fe'u defnyddiwyd ar gyfer canfasio nes iddynt wrthod canu o gwbl a chawsant eu dychwelyd i'w tref enedigol. Maent bellach yn mwynhau llwyddiant yn Ninas Efrog Newydd .

"Notes of a Native Son" golygu

Mae Baldwin yn paentio atgof byw o'i amser yn tyfu i fyny gyda thad paranoiaidd a oedd yn marw o'r ddarfodedigaeth, a'i brofiad cyntaf o wahanu arddull Jim Crow. Cyn marwolaeth ei dad, daeth Baldwin yn ffrindiau gydag athro croenwyn nad oedd ei dad yn ei gymeradwyo. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn New Jersey ac yn aml yn cael ei wrthod mewn lleoedd gwahanedig—mae Baldwin yn dwyn i gof adeg pan daflodd cwpan hanner llawn dŵr at weinyddes mewn caffi cyn sylweddoli y gallai ei weithredoedd arwain at ganlyniadau enbyd.[2] Â ymlaen i ddweud bod pobl dduon sy'n cymryd rhan mewn gwasanaeth milwrol yn y De yn aml yn cael eu cam-drin. Yn olaf, mae'n adrodd marwolaeth ei dad a ddigwyddodd ychydig cyn i'w fam roi genedigaeth i un o'i chwiorydd; roedd angladd ei dad ar ei ben-blwydd yn 19 oed, yr un diwrnod â Therfysg Harlem 1943 .

Rhan Tri golygu

"Encounter on the Seine: Black Meets Brown" golygu

Mae Baldwin yn cymharu Americanwyr croenddu â phobl croenddu yn Ffrainc. Tra bod gan Affricanwyr yn Ffrainc hanes a gwlad i ddal gafael arni, nid yw'r un peth yn wir am Americanwyr croenddu—mae eu hanes yn yr Unol Daleithiau ac mae wrthi'n cael ei greu.

"A Question of Identity" golygu

Mae Baldwin yn esbonio sut mae myfyrwyr Americanaidd sy'n byw ym Mharis yn cael sioc wrth gyrraedd ac yn awyddus i ddychwelyd adref.

"Equal in Paris" golygu

Mae Baldwin yn adrodd cael ei arestio ym Mharis dros gyfnod y Nadolig ym 1949, ar ôl i gydnabod iddo ddwyn taflen gorchudd gwely o westy, yr oedd ef wedi'i ddefnyddio. Mae'r traethawd yn pwysleisio ei anallu diwylliannol i wybod sut i ymddwyn gyda'r heddlu.

"Stranger in the Village" golygu

Mae Baldwin yn edrych yn ôl ar ei amser mewn pentref yn y Swistir—sut mai ef oedd y dyn croenddu cyntaf i'r mwyafrif o'r pentrefwyr eraill ei weld erioed. Mae'n mynd ymlaen i fyfyriou bod pobl dduon o drefedigathau Ewropeaidd yn dal i fod wedi'u lleoli yn Affrica yn bennaf, tra bod yr Unol Daleithiau wedi cael cael ei llywio'n llwyr gan bobl groenddu.

Arwyddocâd llenyddol a beirniadaeth golygu

Ystyrir Notes of a Native Son yn gyffredinol fel clasur o'r genre hunangofiannol groenddu.[3] Gosododd Modern Library ef yn rhif 19 ar ei rhestr o'r 100 llyfr ffeithiol gorau o'r 20g.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. James Baldwin (Tachwedd 20, 2012) [1955]. Notes of a Native Son. Beacon Press. ISBN 978-0-8070-0624-5.
  2. "Notes of a Native Son - Dictionary definition of Notes of a Native Son | Encyclopedia.com: FREE online dictionary". www.encyclopedia.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-15.
  3. "Notes of a Native Son". encyclopedia.com. 2002. Cyrchwyd Ebrill 28, 2015.
  4. "100 Best Nonfiction". Modern Library. Cyrchwyd Ebrill 30, 2012.