Novempopulana
Talaith Rufeinig yn yr hyn sydd nawr yn dde-orllewin Ffrainc oedd Novempopulana, weithiau Novempopulania (Lladin, yn gylygu "Gwlad y Naw Pobl").
Crewyd y dalaith gan yr ymerawdwr Diocletian tua 297, trwy rannu hen dalaith Gallia Aquitania yn dair. Novempopulana oedd y pellaf i'r de-orllewin o holl daleithiau Gâl, yn ymestyn o Afon Garonne hyd y Pyreneau. Roedd yn cyfateb yn fras i hen diriogaeth yr Aquitani.
Y "naw pobl" oedd:
- y Tarbelli o gwmpas Aquae Tarbellicae (Dax, Landes)
- yr Auscii o gwmpas Eliumberrum (Auch, Gers)
- y Bigerri o gwmpas Turba (Tarbes, Bigorre)
- y Convenae o gwmpas Lugdunum (Saint-Bertrand-de-Comminges)
- y Consorani (Saint-Lizier, Couserans)
- y Elusates o gwmpas Elusa (Eauze, Bas-Armagnac)
- y Lactorates o gwmpas Lactora (Lectoure, Lomagne)
- y Vasates o gwmpas Cossium (Bazas)
- y Boii (Lamothe ger Le Teich, Pays de Buch)