"Mwstard swlffwr" ydy gair y gwyddonydd am y nwy cytotocsig hwn,[1] sy'n achosi swigod mawr ar y croen neu yn yr ysgyfaint. Cafodd ei ddefnyddio'n gyntaf fel nwy gwenwynig gan Wilhelm Lommel a Wilhelm Steinkopf, a ddatblygodd dull effeithiol i'w fas-gynhyrchu ar gyfer byddin Ymerodraeth yr Almaen ym 1916.[2]

Effaith nwy mwstard ar fraich milwr.

Mae Nwy mwstard a elwir hefyd yn Swlffwr mwstard yn arf cemegol a ddefnyddiwyd gyntaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan yr Almaenwyr.

Rheolir y defnydd o'r nwy hwn, heddiw, gan Gonfensiwn Arfau Cemegol 1993.

Roedd Gwaith y Dyffryn, Rhydymwyn yn ffatri gyfrinachol a godwyd ym 1939-40 i storio'r arf cemegol. Dewiswyd Rhydymwyn gan ICI oherwydd presenoldeb rheilffordd a phriffordd mewn ardal weddol diarffordd, gyda digon o ddŵr croyw o'r Afon Alun gerllaw[3]. Roedd y lleoliad hefyd yn ddim ond 30 milltir i ffwrdd o brif safle'r cwmni, Gwaith Rundle, ar Ynys Wigg, yn Runcorn, lle roedd yn cynhyrchu nwy mwstart.[4] Cafwyd gwared a stor anferthol o'r nwy yn 1958.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mustard Gas (Sulphur Mustard) (IARC Summary & Evaluation, Supplement7, 1987). Inchem.org (1998-02-09). Adalwyd 29 Mai 2011.
  2. Fischer, Karin (2004). Schattkowsky, Martina (gol.). Steinkopf, Georg Wilhelm, in: Sächsische Biografie (yn German) (arg. Online). Institut für Sächsische Geschichte und Volkskunde. Cyrchwyd 2010-12-28. Unknown parameter |month= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Gwefan Sub-Brit
  4. The Valley Site, Rhydymwyn, Flintshire: Historic Environment Management Plan, Peter Bone, Steve Litherland and Kirsty Nichol, Birmingham Archaeology
  5. "Valley Factory, Rhydymwyn". 2010-07-24.