Mae Afon Alun (Saesneg: River Alyn) yn afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Dyfrdwy.

Afon Alun
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0987°N 2.9005°W Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Cegidog, Afon Terrig Edit this on Wikidata
Map
Afon Alun ger Llanferes.
Afon Alun ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Mae Afon Alun yn tarddu yn y bryniau i'r de o bentref Llandegla, gyda nentydd yn llifo o Fynydd Maesyrychen a Chyrn-y-Brain. Wedi llifo tua'r gogledd trwy Ben-y-Stryt a Llandegla mae'n pasio Llanarmon-yn-Iâl, Llanferes, Loggerheads a Phantymwyn cyn troi tua'r dwyrain i lifo trwy'r Wyddgrug ac yna tua'r de-ddwyrain trwy Gaergwrle ac yna Gwersyllt lle mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain eto. Mae'n ymuno ag Afon Dyfrdwy yn agos i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae Dyffryn Alun yn enwog am brydferthwch y golygfeydd, gyda rhai rhannau wedi eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig, a hefyd o ddiddordeb daearegol, gyda rhannau o'r afon yn diflannu dan y ddaear cyn ail-ymddangos. Ymhilith y tyllau y mae'r dŵr yn diflannu iddynt mae Ogof Hesp Alyn ac Ogof Hen Ffynhonnau. Mae rhan o'r dŵr yma yn llifo trwy dwnel o wneuthuriad dynol i gyrraedd Afon Dyfrdwy.

Gweler hefyd golygu