Nwyfgan
Math o gân ar gyfer tri neu ragor o leisiau, ac heb gyfeiliant, yw nwyfgan[1] (Saesneg: glee) a fu'n boblogaidd yng ngherddoriaeth Lloegr o ganol y 18g hyd at tua 1830. Yn gywir, cenir nwyfgan gan leisiau gwrywaidd unigol, gan gynnwys uwchdenor, ac heb gyfeiliant.[2][3]
Enghraifft o'r canlynol | genre gerddorol, song type |
---|---|
Math | part song |
Daw'r enw glee o'r Hen Saesneg gléo, sef cerddoriaeth neu adloniant, a'r cyfansoddwr cyntaf i ddefnyddio'r term ar gyfer un o'i weithiau cerddorol oedd John Playford ym 1652.[3] Fodd bynnag, ni ddaeth yn ffurf wahanol nes canol y 18g, gan dynnu ar ganigau eraill megis y fadrigal, y dôn gron, a'r ganon. Yn gyffredinol, yr oedd nwyfganeuon yn symlach ac yn haws o ran arddull, gan gynnwys alaw fachog, harmonïau eglur, a geiriau ffraeth neu deimladwy. Gosodai soned neu ryw gerdd arall, yn aml yn ymwneud â bwyd a diod, serch a chyfeillgarwch neu hiraeth a themâu eidylaidd, i gerddoriaeth homoffonig, hynny yw, ar sail cordiau yn hytrach na melodïau gwrthbwyntiol wedi eu cydblethu. Rhennir y cyfansoddiad mewn nifer o adrannau byrion, hunan-gynhaliol â diweddeb, pob un yn mynegi awyrgylch gwahanol o ryw ddarn arbennig o'r gerdd.[2][3]
Cyfrannai nifer o gyfansoddwyr baróc diweddar a'r oes glasurol at y stoc o nwyfganeuon, gan gynnwys Samuel Webbe (1740–1816), Thomas Attwood (1765–1838), a John Danby (1757–98), a gorau oll Syr Henry Rowley Bishop (1787–1855) yn y cyfnod Rhamantaidd cynnar. Erbyn canol y 19g, ildiodd y nwyfgan ei le i'r rhan-gân.[2]
Cyfansoddwyd rhai nwyfganeuon ar gyfer lleisiau cymysg, a defnyddiwyd yr enw mewn ystyr lac i gyfeirio at ganigau poblogaidd eraill megis y rhan-gấn, ac nid yn unig yn ddigyfeiliant.[3] Lledaenodd corau a chymdeithasau canu amatur ar draws Lloegr yn perfformio nwyfganeuon a thonau crynion, yn eu plith y Glee Club (1783–1857), y Noblemen and Gentlemen's Catch Club (ers 1761), a'r City Glee Club (ers 1853). Yn Unol Daleithiau America, datblygodd yr enw clwb glee ystyr ehangach, i gynnwys corawdau a chlybiau cerddoriaeth mewn prifysgolion ac ysgolion uwchradd sydd yn canu mathau gwahanol o gyfansoddidau a threfniannau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ nwyfgan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mai 2023.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Michael Kennedy, Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Caernarfon: Curiad, 1998), tt. 328–29. Cyfieithwyd gan Delyth Prys.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Glee (music). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2023.