Llychlynwyr
Mae'r gair Llychlynnwr yn cyfeirio at y masnachwyr, gwladychwyr ac (weithiau) y môr-ladron Llychlynnaidd. Roedd y Llychlynwyr yn masnachu, yn brwydro ac yn adeiladu gwladfeydd ledled moroedd ac afonydd Ewrop ac ar arfordir dwyreiniol Gogledd America o 800 hyd 1050. Roeddent yn galw eu hunain yn 'Northwyr' ('Gwŷr y Gogledd'), fel y gwneir gan Lychlynwyr modern sydd yn galw eu hunain yn nordbor; 'Northmyn' oedd un o enwau Cymry'r Oesoedd Canol arnynt.
![]() | |
Enghraifft o: | pobl, cyfnod o hanes, diwylliant, arddull ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | 793 ![]() |
![]() |
Enw'r Llychlynwyr yn Rwsia a'r Ymerodraeth Fysantaidd oedd y Varangiaid, o'r enw Væringjar, sef "dynion a chleddyfau ganddynt". Roedd Varangiaid yn rhan o warchodlu Ymerawdwr Caergystennin (y Gwarchodlu Varangaidd).
Mae'r Llychlynwyr yn enwog iawn am frwydro ffyrnig a chryf ond roedden nhw yn grefftwyr a masnachwyr medrus iawn yn ogystal.
Heddiw mae disgynyddion y Llychlynwyr yn byw yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Denmarc, Ynysoedd Ffaröe a Sweden.

yr 8g y 9g y 10g yr 11g - sy'n dynodi ardaloedd a ddioddefodd llawer o ymosodiadau achlysurol gan y Llychlynwyr Sgandinafaidd, er na wnaethant wladychu yno
Gweler hefyd
golyguDarllen pellach
golygu- Jones, Gwyn, A History of the Vikings (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001)
- The Oxford Illustrated History of the Vikings, gol. Peter Sawyer (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001)