Oed Crist

Oed Crist (Lladin: Anno Domini, "Ym mlwyddyn yr Arglwydd"),[1] talfyriad OC neu AD, yw'r system o rifo blynyddoedd o ddyddiad traddodiadol genedigaeth Iesu o Nasareth. Fe'i defnyddir yn y Calendr Gregoraidd. Nodir blynyddoedd cyn genedigaeth Crist fel "Cyn Crist" (CC). Yn y 2020au, defnyddid y term 'y Cyfnod Cyffredin' (Common Era) sy'n enw amgen (a niwtral, yn grefyddol) ar oes galendr draddodiadol, Anno Domini.

Austria Klagenfurt Dome 12.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcyfnod calendr Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebCyn Crist Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dyfeisiodd Dionysius Exiguus y system Oed Crist ar gyfer penderfynu dyddiad y Pasg.

Dyfeisiwyd y system yn Rhufain yn 525 gan fynach o'r enw Dionysius Exiguus, ond ni chyhaeddodd orllewin Ewrop tan yr 8g. Daeth yn gyffredin rhwng yr 11g a'r 14g. Y drefn cyn hynny oedd dyddio yn ôl nifer y blynyddoedd yr oedd teyrn arbennig wedi bod ar yr orsedd. System arall a defnyddid oedd Anno Mundi, o ddyddiad traddodiadol creadigaeth y byd gan Dduw yn ôl Llyfr Genesis.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. James Morwood, A Dictionary of Latin Words and Phrases (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998), t. 17.