Iesu

(Ailgyfeiriad oddi wrth Iesu o Nasareth)

Iesu o Nasareth (c. 6CC - c. 27), a elwir hefyd Iesu (neu Isa gan Fwslimiaid; Iesu Grist neu Crist gan Gristnogion), yw'r unigolyn canolog mewn Cristnogaeth. Mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl:

  • Mae Cristnogion yn credu mai ef oedd unig Fab Duw. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn credu mai ef oedd Duw ei hunan, sef ail Berson y Drindod wedi'i ymgnawdoli fel dyn.[1]
  • Mae Mwslemiaid yn credu ei fod yn broffwyd Duw, yn olynydd i Ibrahim a Moses ac yn rhagflaenydd i'r Proffwyd Mohamed.[2][3]
  • Mae'r rhan helaeth o academyddion yn credu mai person go iawn oedd ef.[4][5][6][7][8][note 1] Maent yn ei weld fel athro crefyddol Iddewig ond nid ydynt yn credu bod y gwyrthiau sydd yn gysylltiedig â'i fywyd wedi digwydd.
  • Mae rhai yn cwestiynu a oedd Iesu Grist yn berson go iawn ac yn meddwl mai ffrwyth dychymyg ei ddisgyblion cynnar oedd ef. Er hyn, damcaniaeth ymylol yw hon nad yw'n cael ei chredu gan braidd dim ysgolheigion.[10][11][12][13]
Llun o Iesu fel Pantocrator (Brenin y Bydysawd) yn Eglwys y Beddrod Sanctaidd, Jeriwsalem

Hanes Iesu Grist yn ôl y traddodiad CristnogolGolygu

Yr hanes yn yr EfengylauGolygu

Iddew oedd Iesu Grist yn byw ym Mhalesteina tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Yn draddodiadol, cymerwyd dyddiad geni Iesu ar 25 Rhagfyr yn y flwyddyn 1 CC yn ôl y drefn Anno Domini a grewyd gan Dionysius Exiguus yn 525. Cred rhai ysgolheigion mai 1 OC oedd Dionysius yn ei fwriadu fel blwyddyn geni Iesu. Mae'r hanes yn yr Efengylau yn awgrymu dyddiad ychydig cynharach, gan fod cyfeiriad at Herod Fawr a fu farw yn 4 CC.

Ganed ef yn nhref Bethlehem, ond treuliodd ei ieuenctid yn Nasareth, Galilea. Roedd yr Iddewon yn cael eu rheoli gan y Rhufeiniaid, ac roedd yn gas ganddynt hyn ac yn credu bod y proffwydi wedi rhag-ddweud y byddai y Meseia yn dod i'w rhyddhau. Daeth llawer ohonynt i gredu mai Iesu Grist oedd y Meseia hwnnw. Crwydrodd o gwmpas Palesteina yn pregethu a dysgu'r bobl gyda deuddeg disgybl yn ei helpu. Roedd hefyd yn iacháu pobl ac yn gwneud gwyrthiau. Am ei fod mor boblogaidd roedd yr awdurdodau crefyddol Iddewig yn ofni bod Iesu Grist yn cael gormod o ddylanwad ar y bobl ac roeddent am gael gwared ohono. Yn y fe lwyddon nhw i berswadio Pontius Pilat , y rhaglaw Rhufeinig, i gytuno i'w groeshoelio am ei fod, yn ôl yr awdurdodau Iddewig, yn fygythiad i awdurdod Rhufain.

Mae'r Efengylau yn dweud wrthym fod Iesu Grist wedi codi o'r bedd ar y trydydd dydd ar ôl ei groeshoelio.

Roedd Iesu Grist wedi gofyn i'r disgyblion barhau gyda'r gwaith o ddysgu'r bobl am Dduw. Dau berson pwysig a wnaeth lawer i sicrhau y byddai Cristnogaeth yn tyfu oedd Pedr a Paul a weithiasant fel cenhadon dros y ffydd newydd yn y Lefant ac Asia Leiaf.

Traddodiadau apocryffaidd a phoblogaidd CristnogolGolygu

Ceir sawl hanes a thraddodiad apocryffaidd am yr Iesu yn y traddodiad Cristnogol. Y llyfr apocryffaidd enwocaf amdano yng Nghymru'r Oesoedd Canol yw Mabinogi Iesu Grist.

Hanes Iesu yn ôl y traddodiad IslamaiddGolygu

Iesu yn y CoranGolygu

Yn Islam, ystyrir fod Isa (Arabeg: عيسى) yn broffwyd annwyl gan Dduw ac yn Feseia. Yn ôl y Coran ganwyd Isa heb dad biolegol i Miriam (neu Maryam: y Forwyn Fair) trwy ewyllys Allah (Duw). Felly fe'i gelwir Isa ibn Maryam (Iesu mab Mair), gan ddefnyddio'r enw mamiarchaidd am nad oes ganddo dad (Coran 3:45, 19:21, 19:35, 21:91). Fel y proffwydi eraill roedd bywyd Isa yn ddi-fai. Roedd yn garedig i bobl ac anifeiliaid ac yn byw mewn tlodi a phurdeb.

Roedd yn medru gwneud gwyrthiau ond dim ond trwy ewyllys Duw; dyn oedd ef, nid Mab Duw. Mae'r Coran yn rhybuddio yn erbyn credu mewn dwyfolaeth Isa (Coran 3:59, 4:171, 5:116-117). Dyw Mwslemiaid ddim yn credu yn y croeshoeliad ac aberth Iesu; credant mai hud a lledrith gan Dduw oedd hynny i dwyllo gelynion Isa a'i fod wedi'i ddwyn yn syth i'r nef (Coran 4:157-158).

Traddodiadau apocryffaidd a phoblogaidd IslamaiddGolygu

Ceir sawl traddodiad apocryffaidd ynglŷn ag Isa. Roedd yn gwrthod alcohol ac yn llyseuwr. Credir bod Isa wedi derbyn efengyl o'r enw Injil gan Dduw a bod honno'n cyfateb i'r Testament Newydd, ond ei fod wedi cael ei llygru gydag amser.

Gan ddilyn rhai o'r dywediadau a briodolir i Mohamed, mae rhai Mwslemiaid yn credu y daw Isa yn ôl yn y cnawd ar ôl Imam Mahdi (y proffwyd ail olaf) i drechu'r Dajjal ("Y Twyllwr"; ffigwr Gwrth-Grist). Bydd yn disgyn yn Damascus o'r nef ac yn byw gweddill ei oed naturiol yn ymladd drygioni. Mae Mwslemiaid Sunni yn credu y bydd yn cael ei gladdu ym Medina, yn ymyl Mohamed. Nid yw pawb yn derbyn hynny o bell ffordd.

Mae enwad fach yr Ahmadiyyaid yn credu bod Isa wedi goroesi'r croesholiad a theithio i Kashmir lle bu farw fel proffwyd dan yr new Yuz Asaf a chael ei gladdu yn Srinagar: mae hyn yn heresi i'r mwyafrif o Foslemiaid.

SymboliaethGolygu

Mae sawl awdur wedi ystyried yr Iesu yng ngoleuni mytholeg gymharol ac yn honni bod elfennau o gredoau a thraddodiadau paganaidd y cyfnod wedi eu benthyg, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan yr eglwys gynnar.

NodiadauGolygu

  1. Dywed Richard A. Burridge: "There are those who argue that Jesus is a figment of the Church’s imagination, that there never was a Jesus at all. I have to say that I do not know any respectable critical scholar who says that anymore."[9]

Llyfryddiaeth ddetholGolygu

CristnogaethGolygu

Y Testament Newydd yw'r brif ffynhonnell. Golygwyd y pwysicaf o'r llyfrau apocryffaidd gan M.R. James yn The Apocryphal New Testament (Rhydychen, 1924; arg. newydd 1953).

IslamGolygu

Mae sawl pennod yn y Coran yn ymwneud â'r proffwyd Isa a'i fam Miriam. Ceir yn ogystal sawl llyfr â thraddodiad apocryffaidd amdano (ceir manylion am rai ohonynt yng ngolygiad M.R. James o Apocryffa'r Testament Newydd, uchod).

Astudiaethau cyffredinolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. "Who is Jesus? What Do Christians Believe?" Johns Hopkins University. Graduate Christian Fellowship. [1] Archifwyd 2013-03-04 yn y Peiriant Wayback. 1 May 2013
  2. Glassé, Cyril (2001). The new encyclopedia of Islam, with introduction by Huston Smith (arg. Édition révisée.). Walnut Creek, CA: AltaMira Press. t. 239. ISBN 9780759101906.
  3. The Oxford Dictionary of Islam, p.158
  4. In a 2011 review of the state of modern scholarship, Bart Ehrman (a secular agnostic) wrote: "He certainly existed, as virtually every competent scholar of antiquity, Christian or non-Christian, agrees" B. Ehrman, 2011 Forged : writing in the name of God ISBN 978-0-06-207863-6. p. 285
  5. Robert M. Price (an atheist who denies the existence of Jesus) agrees that this perspective runs against the views of the majority of scholars: Robert M. Price "Jesus at the Vanishing Point" in The Historical Jesus: Five Views edited by James K. Beilby & Paul Rhodes Eddy, 2009 InterVarsity, ISBN 028106329X p. 61
  6. Michael Grant (a classicist) states that "In recent years, 'no serious scholar has ventured to postulate the non historicity of Jesus' or at any rate very few, and they have not succeeded in disposing of the much stronger, indeed very abundant, evidence to the contrary." in Jesus: An Historian's Review of the Gospels by Michael Grant 2004 ISBN 1898799881 p. 200
  7. Robert M. Price (a Christian atheist) who denies the existence of Jesus agrees that this perspective runs against the views of the majority of scholars: Robert M. Price "Jesus at the Vanishing Point" in The Historical Jesus: Five Views edited by James K. Beilby & Paul Rhodes Eddy, 2009 InterVarsity, ISBN 0830838686 p. 61
  8. Jesus Now and Then by Richard A. Burridge and Graham Gould (April 1, 2004) ISBN 0802809774 p. 34
  9. Burridge 2004, t. 34.
  10. Van Voorst (2003), pp. 658, 660.
  11. Fox 2005, t. 48.
  12. Burridge & Gould (2004), p. 34.
  13. Ehrman, Bart (25 April 2012). "Fuller Reply to Richard Carrier". The Bart Ehrman Blog. Cyrchwyd 2 May 2018.