Oen
Mamal carnol bychan yw oen. Dafad ifanc ydyw, ac mae'n anifail sy'n cnoi ei gil (Saesneg: ruminant). Cânt eu geni yn y Gwanwyn, pan fo'r tywydd yn cynhesu, a cheir ychydig tros biliwn o ddefaid ar y Ddaear. Mae'r gair "dafad" yn cael ei ddefnyddio am sawl rhywogaeth o ddefaid, ond fel arfer, o ddydd i ddydd, mae'r gair yn cael ei ddefnyddio am y genws Ovis.
Symbol o ddiniweidrwydd
golyguDefnyddir yr oen drwy'r Beibl yn symbol am ddiniweidrwydd e.e. caiff Iesu Grist ei alw'n "Oen Duw"; cyfeirir at Grist, hefyd, fel "y Bugail Da". Ceir hefyd gyfeiriad at Esau (mab Isaac) yn gwisgo croen oen amdano. Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).
Ceir hefyd nifer o ddywediadau'n deillio o hyn:
- Mawrth a ladd, Ebrill a fling - mae Mawrth yn lladd ac Ebrill yn blingo.
- Os daw Mawrth i mewn fel Oen, aiff allan fel llew.
- Mynd fel oen i'r lladd-dy - mynd yn ddiniwed o flaen ei well.
- Llew mewn dillad oen - Rhywun cas yn ceisio edrych yn ddiniwed.
Mewn llenyddiaeth
golygu- Dic Jones:
- Ond y mae ŵyn hyd y maes:
- Ŵyn arianfyw o'r henfaes;
- Heini pob oen ohonynt
- Yn dechrau'i gampau'n y gwynt.
(Awdl y Gwanwyn)