Agor y brif ddewislen

Dosbarth o anifeiliaid asgwrn-cefn yw'r mamaliaid (hefyd: mamolion) ac maent yn anifeiliaid gwaed cynnes. Mae chwarennau tethol gan yr anifeiliaid hyn, er mwyn rhoi llaeth i'w rhai bach. Mae angen llawer o fwyd arnynt er mwyn cadw'n gynnes, mwy nag anifeiliaid gwaed oer. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt flew neu ffwr ar eu cyrff i gadw'n gynnes, ond does dim ffwr gan famaliaid y môr, braster sydd yn eu cadw nhw'n gynnes. Mae'r hwyatbig a'r echidna yn dodwy wyau, mae mamaliaid eraill yn cael eu geni'n fyw.

Mae tua 4000 o wahanol fathau o famaliaid. Gelwir y rhai sydd yn bwyta anifeiliaid eraill yn gigysyddion, a'r rhai sydd yn bwyta planhigion yn llysysyddion.

CymruGolygu

CynhanesGolygu

Ym Mro Morgannwg y darganuwyd y dystiolaeth gynharaf o famaliaid yng Nghymru, i'r de o Ben-y-bont ar Ogwr mewn chwareli glo. Yma, yn 1947 y darganfuwyd olion Morganucodon watsoni, anifail bychan tebyg i'r llyg, a oedd yn byw yno tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth o esgyrn, ffosiliau a chofnodion ysgrifenedig (o amser y Rhufeiniaid sy'n taflu golau ar famaliaid sydd wedi hen ddiflannu, rhai cyn hyned a 225,000 CP. Canfuwyd esgyrn llawer o famaliaid anghyffredin heddiw mewn ogofâu yng Ngogledd Cymru hefyd e.e. Ogof Bontnewydd, Cefnmeiriadog, Sir Ddinbych. Ymlith y mamaliaid yn Hen Oes y Cerrig y mae: y rhinoseros blewog, y mamoth, yr udfil, ceffyl, blaidda bual. Mewn cyfnodau cynhesach (cyn y rhewlifau), roedd yma hefyd y llew, y rhinoseos trwyngul a'r eliffant ysgithrsyth.

Erbyn Oes Newydd y Cerrig, dylanwadodd ffermio ar fywyd mamaliaid a daeth cŵn, geifr, moch a'r ceffyl yn anifeiliaid domestig. Geifr oedd y mwyaf niferus yng Nghymru - tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Er mwyn sicrhau tir pori, cliriwyd llawer o goedydd Cymru - a newidiodd hyn llawer ar yr amgylchedd e.e. o'r boncyffion y daeth y rhan fwyaf o fawnogydd Cymru. Roedd hyn yn dinistrio llawer o gynefinoedd adar a mamaliaid fel eirth, bleiddiaid a cheirw. Felly wrth i'r tir amaethyddol gynyddu, lleihaodd y tir gwyllt.

Llenyddiaeth a chelfGolygu

Yn yr hwiangerdd Pais Dinogad o'r 7g, crybwyllir nifer o famaiaid gan gynnwys y bele coed, y baedd gwyllt, y llwynog, y gath wyllt a'r iwrch. Ceir addurniadau o famaliaid yn aml iawn mewn hen lawysgrifau, er mwyn dod a fflach o liw i'r gwaith, a cheir cyfeiriadau at famaliaid yn britho'r Mabinogi ac oddi fewn i gyfreithiau Hywel Dda.[1] Ceir hefyd enwau lleoedd ac afonydd yn cynnwys cyfeiriad at famal arbennig.

Rhestr mamaliaidGolygu

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am mamal
yn Wiciadur.
  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud 597