Brenhinllin Han

(Ailgyfeiriad o Oes Han)

Cyfnod yn hanes Tsieina oedd Brenhinllin Han (Tsineëg Syml: 汉朝; Tsineëg Traddidiadol: 漢朝), o 206 CC hyd 220 OC. Ystyrir y cyfnod yma yn un o uchafbwyntiau hanes Tsieina, pan ymestynwyd yr ymerodraeth i gynnwys Corea, Fietnam a Chanolbarth Asia.

Brenhinllin Han
Enghraifft o'r canlynolChinese dynasty, gwladwriaeth hanesyddol Tsieina, cyfnod o hanes, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben220 Edit this on Wikidata
Label brodorol漢朝 Edit this on Wikidata
Poblogaeth59,594,978, 56,486,856 Edit this on Wikidata
Rhan oQin Han, Early Imperial China Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu206 CC Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCao Wei, Shu Han, Eastern Wu Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWestern Han, Brenhinlin Gorllewin Han Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddBrenhinllin Qin Edit this on Wikidata
Enw brodorol漢朝 Edit this on Wikidata
GwladwriaethYmerodraeth Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd y frenhinllin gan Liu Bang, a ddaeth i'r orsedd yn 202 CC fel yr Ymerawdwr Gaozu o Han wedi iddo orchfygu Xiang Yu o'r Chu Gorllewinol ym Mrwydr Gaixia. Brenhinllin Han oedd y frenhinllin gyntaf i'w seilio ei hun ar athroniaeth Conffiwsiaeth; dewisodd yr Ymerawdwr Wu Gonffiwsiaeth fel yr athroniaeth oedd i lywodraethu'r wladwriaeth.

O'r frenhinllin yma y mae grŵp ethnig mwyaf Tsieina, Tsineaid Han, yn cymryd ei enw.

Yr ymerodraeth yn 87 CC


Cyfnodau hanes Tsieina
Hanes Tsieina Brenhinllin ShangBrenhinllin ZhouCyfnod y Gwladwriaethau RhyfelgarBrenhinllin QinBrenhinllin HanBrenhinllin TangBrenhinllin YuanBrenhinllin MingBrenhinllin Qing