Brenhinllin Ming oedd y frenhinllin fu'n rheoli Tsieina o 1368 hyd 1644, yn dilyn cwymp Brenhinllin Yuan, oedd o dras Mongolaidd. Roedd Brenhinllin Ming yn frenhinllin Sineaidd ethnig neu Han, y frenhinllin Han olaf yn hanes Tsieina. Dinistriwyd y frenhinllin gan wrthryfel dan arweiniad Li Zicheng, a chymerwyd ei lle gan Brenhinllin Qing, o dras Manchu. Cipiwyd prifddinas y Ming, Beijing, yn 1644, ond parhaodd rhan o'r Ming mewn grym yn ne Tsieina hyd 1662.

Brenhinllin Ming
Enghraifft o'r canlynolgwladwriaeth hanesyddol Tsieina, cyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Daeth i ben1644 Edit this on Wikidata
Label brodorol大明 Edit this on Wikidata
Rhan oMing Qing, Late Imperial China Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1368 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganBrenhinllin Yuan, Chinese Middle Ages Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddBrenhinllin Yuan, Song, Ymerodraeth y Mongol Edit this on Wikidata
OlynyddShun dynasty, Brenhinllin Qing, Southern Ming dynasty Edit this on Wikidata
Enw brodorol大明 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeth Tsieina yn rym mawr yn y cyfnod Ming, gyda byddin sefydlog o 1,000,000 o filwyr. Gwelodd y cyfnod hefyd fordeithiau gan lynges dan arweiniad Zheng He yn y 15g i sawl rhan o'r byd.

Tsieina yng nghyfnod Ymerawdwr Yongle


Cyfnodau hanes Tsieina
Hanes Tsieina Brenhinllin ShangBrenhinllin ZhouCyfnod y Gwladwriaethau RhyfelgarBrenhinllin QinBrenhinllin HanBrenhinllin TangBrenhinllin YuanBrenhinllin MingBrenhinllin Qing
Baner Gweriniaeth Pobl TsieinaEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.