Offrymau Neilltuaeth
Cyfrol gyntaf Daniel Owen oedd Offrymau Neilltuaeth. Fe'i cyhoeddwyd gan Hugh Jones yn yr Wyddgrug yn 1879. Rhannwyd y gyfrol yn ddwy, sef 'Cymeriadau Biblaidd' ( 7 pennod) a 'Cymeriadau Methodistaidd' (5 pennod). Roedd y deunydd i gyd wedi ymddangos yn y Drysorfa yn ystod 1876 ac 1877. Yn y rhagair 'At y Darllenydd' dywed Daniel Owen iddo lunio'r llyfr 'yn ystod afiechyd a hir nychdod', Ar ôl cael ei daro'n wael yn 1876 roedd Roger Edwards, golygydd y Drysorfa wedi annog Daniel Owen i addasu rhai o'i bregethau ar gyfer eu cyhoeddi. Dyna yw rhan gyntaf y gyfrol 'Cymeriadau Biblaidd'. Yr ail ran yw gwaith ffuglen cyntaf yr awdur, ac mae'n cyflwyno'r math o gymeriadau a themâu y byddai'r awdur yn datblygu yn ei weithiau diweddarach.