Yr Wyddgrug

tref a chymuned yn Sir y Fflint
(Ailgyfeiriwyd o Wyddgrug)

Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw'r Wyddgrug. Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Cynhelir marchnad lwyddiannus ynghanol y dref bob dydd Mercher, ac mae'r Stryd Fawr yn ffynnu. Mae llwyfan awyr-agored ynghanol y dref, a chynhelir digwyddiadau cerddorol o dro i dro. Cynhelir twmpathau yn neuadd yr eglwys pedair gwaith bob blwyddyn. Ystyr enw y dref yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel"). Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'n debycach mai'r un 'gŵydd' yw hwn ac 'yn eich gŵydd' hy 'golwg' ac mai ystyr Yr Wyddgrug felly yw 'Bryn Amlwg'.[1]

Yr Wyddgrug
Y stryd fawr a'r eglwys
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,155, 9,568, 10,058 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.166°N 3.133°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000197, W04000995 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ237640 Edit this on Wikidata
Cod postCH7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
Map
Yr Wyddgrug o gyfeiriad Bryniau Clwyd
Ffordd Caer, Yr Wyddgrug
Goleuadau'r Nadolig yn y dref

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[3]

Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.

Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.

Terfysg yr Wyddgrug

golygu
 
Yr hen lys; mae olion bwledi yn y waliau yma o hyd.

Ar 2 Mehefin 1869 cafwyd terfysg yn yr Wyddgrug pan ffyrnigwyd glowyr o'r dre ac ardal gyfagos Coed-llai gan ymddygiad drahaus John Young, Sais o Durham[4], a ataliodd y Cymry rhag siarad Cymraeg.[5]

Ychydig wedi hynny, gostyngwyd eu cyflog a daeth Young a chriw o lowyr o Ogledd Lloegr i weithio'r gwythiennau gorau. Trodd y Cymry yn ei erbyn ac ymosod arno, a rhoddwyd 7 ohonynt i sefyll eu prawf o flaen y llys yn yr Wyddgrug ar 2 Mehefin 1869. Roedd bron i 2,000 o Gymry lleol o flaen y llys, yn cefnogi'r glowyr a galwyd am filwyr o Gaerhirfryn i ddelio gyda nhw (gw. http://www.kingsownmuseum.com/ko2490-894.htm). Saethon nhw i'r dorf a lladdwyd pedwar neu bump o sifiliaid. Ar 5 Mehefin 1869 dyfarniad y cwest oedd 'llofruddiaeth gyfiawn'.

Yr wythnos ganlynol, cafodd pump o ddynion – Isaac Jones, William Griffiths, Rowland Jones, Gomer Jones a William Hughes – eu rhoi ar brawf am eu bod wedi bod yn rhan o’r terfysg. Cafwyd hwy yn euog o "anafu troseddol" a dedfrydwyd pob un ohonynt i ddeng mlynedd o gaethwasiaeth-gosb (penal servitude).

Mae rhai wedi galw'r digwyddiad yn "Bloody Sunday y Cymry".[6]

150 mlynedd cyn hyn, roedd Deddf Terfysg 1715 yn ei gwneud yn drosedd ddifrifol i aelodau torf o ddeuddeg neu fwy o bobl wrthod gwasgaru o fewn awr i gael gorchymyn i wneud hynny gan ynad. Yn anffodus ni ddarllenwyd y Ddeddf Terfysg hon i'r protestwyr yn yr Wyddgrug. Effaith trasiedi'r Wyddgrug oedd i'r awdurdodau ailfeddwl a newid y ffordd o ddelio ag anhrefn cyhoeddus.

Er ei fod yn gwadu'r cysylltiad, disgrifiodd Daniel Owen, a oedd yn byw yn y dref, ddigwyddiadau tebyg yn ei nofel gyntaf, Rhys Lewis, a gyhoeddwyd mewn rhandaliadau rhwng 1882–1884.

Addysg

golygu

Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Ysgol Alun (Saesneg ei hiaith) ac Ysgol Maes Garmon (Cymraeg ei hiaith).

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Wyddgrug (pob oed) (10,058)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Wyddgrug) (2,051)
  
21.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Wyddgrug) (6055)
  
60.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Yr Wyddgrug) (1,654)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 326
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. historic-uk.com; Mold Riots of 1869; adalwyd 2 Mehefin 2025.
  5. [The Mold Tragedy of 1869 gan Jenny and Mike Griffiths, (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 2001).
  6. libcom.org; The Mold riots: The summer of ‘69; adalwyd 2 Mehefin 2025.
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.