Ogof Fingal
ogof enwog yn yr Alban. Ysbrydoliaeth cerddorieth enwog gan Felix Mendelssohn
Mae Ogof Fingal ar ynys Stafa, un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban. Mae’r ogof yn nodweddiadol am ei cholofnau Basalt, ac yn denu twristiaid, fel arfer o ynys Muile, 10 cilomedr i ffwrdd. Mae’r ogof yn 75 medr o hyd, 14 medr o led a 22 medr o uchder. Enw Gaeleg yr ogof yw Uamh-Binn (ogof melodi). Crewyd yr ogof a Sarn y Cawr (Saesneg: Giant’s Causeway) gan yr un llif o lafa tua 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl chwedl, roeddent yn rhan o bont defyddiwyd gan Fionn mac Cumhaill i gyrraedd yr Alban.[1]
Math | ogof arfordirol, ogof i ymwelwyr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.43139°N 6.34142°W |
Hyd | 1,130 metr |
Cyfnod daearegol | Paleosen |
Ysbrydolwyd Felix Mendelssohn i greu cerddoriaeth gan yr ogof a sŵn y tonnau.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan atlasobscura
- ↑ "Gwefan visitscotland.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-28. Cyrchwyd 2020-05-13.