Afon Okavango

(Ailgyfeiriad o Okavango)

Afon yn ne-orllewin Affrica yw afon Okavango. Mae'n llifo trwy Angola, Namibia a Botswana. Gyda hyd o tua 1,700 km, mae'n un o afonydd hwyaf deheudir Affrica.

Afon Okavango
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladAngola, Botswana, Namibia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.653801°S 16.127178°E, 18.683788°S 22.173698°E Edit this on Wikidata
TarddiadBié Plateau Edit this on Wikidata
AberOkavango Delta Edit this on Wikidata
LlednentyddCuito River, Q1142908, Q10361826 Edit this on Wikidata
Dalgylch800,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,700 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad500 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Ceir ei tharddiad yn Ucheldir Bié yn Angola, fel afon Ciwbango. Dim ond wedi cyrraedd ffîn Namibia y mae'n cael yr enw Okavango. Nid yw'n cyrraedd y môr; yn hytrach mae'n dod i ben ym Motswana yn Anialwch Kalahari, lle mae'n creu ardal gorslyd a elwir yn Delta Okavango. Mae'r ardal yn enwog am gyfoeth ei bywyd gwyllt.

Eliffantod yn ardal Delta Okavango