Old Compton Street
Mae Old Compton Street yn stryd sy'n mynd o ddwyrain i orllewin Soho, yn Ninas Westminster, canol Llundain. Erbyn heddiw, mae'n cael ei hadnabod fel canolbwynt cymuned hoyw Llundain, ac mae ganddi nifer o glybiau a bariau hoyw, tai bwyta yn ogystal â theatr boblogaidd y Tywysog Edward.
Math | stryd |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Cysylltir gyda | Dean Street, Frith Street, Greek Street, Tisbury Court, Wardour Street, Moor Street |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5133°N 0.1313°W |
Hanes
golyguEnwyd y stryd ar ôl Henry Compton, a gododd arian ar gyfer eglwys leol y plwyf. Enwyd yr eglwys yn Eglwys y Santes Anne ym 1686. Ar ôl i Siarl II o Loegr gynnig gwarchod y Protestaniaid ym 1681, poblogwyd yr ardal yn gyffredinol a'r stryd hon yn benodol gan ffoaduriaid o Ffrainc.
Erbyn diwedd y 18g, roedd gan lai na deg o dai ffenest siop ar eu tu blaen. Yng nghanol yr 19g, defnyddiwyd y mwyafrif o'r tai fel siopau, er bod gweithdai yn ogystal â thafarndai a thai bwyta yno hefyd. Parhaodd y nifer o mewnfudwyr i gynyddu a daeth y stryd yn enwog fel man cyfarfod ar gyfer pobl alltud, yn enwedig ar gyfer y Ffrancod; wedi iddynt gael eu herlid ym Mharis, arferai Rimbaud a Verlaine yfed yma hefyd.
Rhwng 1956 a 1970, lleolwyd Bar Coffi 2 I fan yma. Arferai nifer o gerddorion pop y 1960au chwarae yn y ganolfan gyfyng hon.